The Celtic Literature Collective

Ymddiddan y Saint a Chybi
wrth fyned i Ynys Enlli
NLW. MS 2002 (formerly Panton 33), Pen. MS 111 fo. 312-313

M.A. note: Aneurin ai cant medd rhai llyvrau

Pan oedd seint senedd Vrevi
Yn ol gwig pregeth Dewi
Drwy arch y Prophwydi,
Yn myned i Yynys Enlli.

Yno i gofynnent i Gybi
Bwy borthiant sydd ar weilgi
Duw a ro cyngor ini
Ar dir a mor yleni

Cann haws gann Dduw roddi
Na chan ddyn diddim erchi
Mae medd y Prophwydi
Ddan parthiant byd or heli.

Gweddiwn Dduw o ddifri
A goddefwn galedi
Ni chair lles o ddiogi
Trech llafur no direidi

Yno i dywawd Eleri
O chredir llyfr Genefi
Ni rodd Duw ddyn geni
Heb lafur iddo iw borthi

Wellwell sydd Duw oi addoli
Waethwaeth Diawl oi berchi
Dirwest ffydd a gweddi
A orfydd bob caledi

Y mwyaf yn nydd cyfri
Y mwyaf ei amherchi
Yr haccraf ei ferthyri
Teccaf a sydd gor bron Celi

Nag ofnwch for heli
Mwy nor fwyalch ynghelli
Nidd ardd nid erddir iddi
Nid llawenach neb no hi

Archwn i Dduw un a thri
Arglwydd yr holl arglwyddi
Iesu ar ei bum gweli
Yn dwyn o bob kyfelrhi

SOURCES
The Myvyrian Archaiology.

Evans, J. G. Reports

Manuscripts:
NLW MS 2002 (formerly Panton 33; Evan Evans ‘Ieuan Brydydd Hir’ (1731-88)

Pen. 111 fo. 312-313 Llyfr Sion ap Wiliam ap Sion/John Jones of Gelli Lyvdy, 1610