The Celtic Literature Collective

Englynion y Clyweid
Testun Llyfr Coch Talgarth.
(Llan. 27, 161 b.)

1. A glyweist di a gant kynwyt. [161 b]
ac a glyw a dywetpwyt.
goreu kamwri kadwyt.

2. A glyweist di a gant kynrein.
penn kyssul ynys brydein.
y[s] gwell kadw noc olrein.

3. A glyweist di a gant Itloes.
gwr gwar hygar y einyoes.
goreu kynnyd kadw moes.

4. A glyweist di a gant kynnllwc.
gwr llwyt llydan y olwc.
kafas da ny chaffo drwc.

5. A glyweist di a gant meugant.
yn ysgar ae ysgarant.
pob enwir di enwir y blant.

6. A glyweist di a gant karcu.
gwedy goruot ar y llu.
nyt gwaratwyd gwellau.

7. A glyweist di a gant y vronvreith.
pan dramwych dros diffeith.
na vit dy elyn dy gedyrndeith.

8. A glyweist di a gant y vran.
kynnull gynnut kynneu dan.
gwell rydraws no rydruan.

9. A glyweisti a gant katgyffro.
hen yn darilein llyuyr kauo.
ny mat vu ny bu gymro.

10. A glyweist di a gant y gegin.
byd lew na uyd asgethrin.
na vit dy wreic dy gyfrin.

11. A glyweist di a gant vr[y]en.
gyt ac a ganer amgen.
digawn crist trist yn ilawen.

12. A glyweist di a gant kynuarch.
bit dy ysgwyd ar dy uarch.
ar nyt[h] barcho di na pharch.

13. A glyweist di a gant dewi.
gwr llwyt llydan y deithi.
goreu deuawt daeoni.

14 .A glyweist di a gant teilaw.
gwr a vu yn penytyaw.
a duw nyt da ymdaraw.

15. A glyweist di a gant [padarn].
pregethwr kywir kadarn.
a wnel dyn duw ae barn.

16. A glyweist di a gant andras.
a odefawd croes leas.
duw a rannawd nef a gaf[as].

17. A glyweist di a gant marthin.
brenhinawl sant y gyfrmn. [162 a]
namyn duw nyt oes dewin.

18. A glyweist di a gant gwynlliw.
tat katwc kywir ymliw.
edewit ny wnelher nyd iw.

19. A glyweist di a gant anarawt.
milwr donyawc did[l]awt.
reit wrth amhwyll pwyll parawt.

20. A glyweist di a gant gwrhir.
gwalstawt pob ieithych
a wnel twyll ef a dwyllir.

21. A glyweist di a gant gereint
mab erbin kywir kywreint.
byrr hoedlawc digassawc seint.

22. A glyweist di a gant ryderch.
trydyd hael serchawc serch.
gnawt rygas gwedy ryserch.

23. A glyweist di a gant hygwyd.
a vuassei gynt yn swyd.
gnawt gwedy traha tramgwyd.

24. A glyweist di a gant ffolwch.
o gymryt ediueirwch.
gnawt gwedy ryret atregwch.

25. A glyweist di [a gant] cormoc.
brenhinawl gyfreith annoc.
pob hir letrat y groc.

26. A glyweist di a gant eilerw.
oed varchawc serchawc syberw.
hir gnoir tameit chwerw.

27. A glyweist di a gant ysperir.
yn ymdidan a me[i]nhir.
kar kywir yn ig y gwelir.

28. A glyweist di a gant hyled.
merch kyndrwyn mawr y ryued.
nyt roi da a wna tioded.

29. A glyweist di a gant y barcut.
edyn ysglyfyat glewdrut.
moch vyd barn pob ehut.

30. A glyweist di a gant haernwed.
vradawc vilwr teyrned.
trech nerth no gwir wrth gywryssed.

31. A glyweist di a gant y pysc.
wrth ymdraffill ymplith gwrysc.
trech vyd anyan noc adysc.

32. A glyweist di a gant hueil.
mab kaw kymwyll areil.
mynych syrth meuyl o gesseil.

33. A glyweist di a gant bedwi.
oed escob donyawc difri
racreiLha dy eir kyn noe dodi.

34. A glyweist di a gant llywarch.
oed henwr drut dihafarch.
onyt kyfarwyd kyfarch.

35. A glyweist di a gant auaon.
uab talyessin gerd gofyon.
ny chel grud kystud callon.

36. *A glyweist di a gant yscafnell. [162 b]
mab dysgyfdawt kat gymmell.
nyt anregir tlawt o bell.

37. A glyweist di a gant rioget.
gwedy kaffel teyrnget.
ny chwsc duw pan ry gwaret.

38. A glyweist di a gant y gorres.
wrth y gelein pan sorres.
fly charawd crist ae croges.

39. A glyweist di a gant bangar.
mab kaw milwr clotgar.
bit tonn callon gan alar.

40. A glyweist di a gant llurerwrn.
wrth y gyfeilit hirattrwm.
pan lado duw y llad yn drwm.

41. A glyweist di a gant goliffer.
gosgorduawr gwymp y niuer.
cas gwirioned ny charer.

42. A glyweist di a gant beuno.
kan dy bader ath gredo.
rac angeu fly thyckya ffo.

43. A glyweisti a gant y beleu.
gyt ar adar yn gwareu.
pob hir nychtawt y angeu.

44. A glyweisti a gant dirmic.
milwr doeth detholedic.
digawn duw da y unic.

45. A glyweisti a gant kulhwch.
am y heneint ae hedwch.
detwyd a gar dadolwch.

46. A glyweisti a gant gwiawn.
dremynwr golwc unyawn.
duw kadarn a varn pob jawn.

47. A glyweisti a gant llenllyawc.
gwydel urdawl eurdorchawc.
gwell bed no buched ynghenawc.

48. A glyweisti a gant kynon.
yn ymoglyt rac medwon.
"allwyd y gwryf callon."

49. A glyweisti a gant gwrhy.
bit lawen pawb yn y dy.
wyneb trist crist a ery.

50. A glyweisti a gant hyiwyd.
oed henwr kall kyfarwyd.
nyt tref tat enryded arglwyd.

51. A glyweisti a gant gwrgi.
da y gyssul rnywn cwnsli.
nyt reit y detwyd namyn y eni.

52. A glyweisti a gant gwr call
yn kynghori gwas anghall.
a wnel y drwc arhoet y llall.

53. A glyweisti a gant rioget.
oed ffydlawn kyfyawn y gret.
a wnel drwc ymogelet.

54. A glyweisti a gant kynghellawr,
yn ymdidan a lliw gwawr.
chwerdit bryt wrth a garawr.

55. A glyweisti a gant kynan.
gwledic sant y anyan.
dyckit pob amhwyll y rann.

56. A glyweisti a gant kunllaw.
gwr* a vu yn llauuryaw. [163 a]
drwc a dryckwas gwaeth hebdaw.

57. A glyweisti a gant huarwar.
yn ymclidan ae gymar.
detwyd ar ae gwyl ae kar.

58. A glyweisti a gant gildas.
mab y gaw milwr atkas.
dyrnawt gwas hir vyd y gas.

59. A glyweisti a gant garselit.
gwydel diogel ymlit.
drwc pechawt oe bell erlit.

60. A gly[w]eist di a gant credeilat.
uerch lud riein wastat.
digawn da diwyt gennat.

61. A glyweist di a gant llyaws.
mab nwyfre milwr hynaws.
a vo kalet y gyngaws.
dadleuet ar bop achaws.

62. A glyweisti a gant kyndrwyt.
tangnefedwr a mat mwyn.
nyt chware hengi a cholwyn.

63. A glyweisti a gant yr lien gyrys.
gwna dy neges yn dibrys.
gwell kar yn ilys noc eur ar vys.

64. A glyweisti a gant kalcaw.
ny mynnei y neb y dwyllaw.
gwell vn hwde no deu adaw.

65. A glyweisti a gant europa.
mab custeon cas westua.
gnawt o benn drythyll draha.

66. A glyweisti a gant eheubryt.
mab kyfwlch kyfvawn yspryt.
goual dyn duw ae gweryt.

67. A glyweisti a gant drystan.
gobeithwr prud y anyan.
gossymdeith dyn duw ae rann.

68. A glyweisti a gant dremhidyd.
hen disgwylwr ar geyryd.
gwell nac noc adaw fly wneyd.

69. A glyweisti a gant kywryt keint.
a odefawd liawer heint.
gwae ieuangk a eidun heneint.

70. A glyweisti a gant eilassaf.
odit undyn dianaf.
nyt vn awen jach a chiaf.

71. A glyweisti a gant y pi.
geilwat argoelyat gwesti.
nyt menechtit maeryoni.

72. A glyweisti a gant kadeith.
uab porthawr milwr areith.
ny char douyd diobeith.

73. A glyweist di a gant gwendoleu.
wrth dramwyaw dyffrynneu.
prenn yngkoet arall bieu.