The Celtic Literature Collective

Coronog Faban

Coronog Faban medd Taliesin
A ddarlleir yn llyfrau Merddin,
Ynghanol ei oes ef nertha Werin
Ac yn niwedd ei oes ef a fydd Brenin.

Coronog Faban a gyfyd Dduw gwener
Yn erbyn Gog Magog ai holl nifer
Ac a dynn battelu o dan ei fanner
Yno gwae'r Sais a fo'n ei amser.

Coronog Faban penna yw Iesu
O dir y Gogledd y daw i Gymru,
Gwynfyd Eliso pan welir teulu,
A meibion Gruffudd ac wyrion Dyddgu.

Coronog Faban llyma beth rhyfedd
Rhag ofn cafod ef a gilia i'r Gogledd,
Fe gyll yn Lloegr Arglwyddiaeth ryfedd,
Ac etto Brenin fydd e'n y diwedd.

Coronog Faban credwn yn ddiau,
Y daw llynges i Aberdaugleddau,
Yna y cryn Lloegr pan glywer chwedlau,
A'r ynys bawdd dwr Deyrnas maddau.

Coronog Faban medd proffwydi
a ddaw i Brydain dros gefn Gweilgi
Pan ddel llynges daer i Gaergybi.
Yna gwae'r Saeson ai holl gwmpeini               gymhelri, in al.

Coronog faban a dynnir adanedd
O waelod Lloegr hyd y gogledd,
Ond un o'i esgyll a geidw Gwynedd
Ac yn nheyrnas y beilchion hyn sy ryfedd.

Coronog faban medd Henricus
Hen brophwyd yr Alhan a fudd gallus
Ac yn eu ieuenctid y goron ddystlus
Ac yn ei henaint a fydd ddownus

Coronog faban medd prophwyd arall
Mettonys Esgob a fu rygall,
Ac yn eu ieuenctid ef a ladd a bwyall,
Ac yn ei henaint ef a ladd yn ddiball.

Coronog fahan a gyfyd Llynges,
Medd Sibli ddoeth a fu Frenhines,
Ac i'r Twrciaid ef a wna afles,
a chilio rhagddo nid oes neges.

Coronog faban medd Apostolion,
A wna rhyfeddod ym mysg yr Iuddewon.
Ef a bair iddynt gredu fel Cristnogion
I Grist golli gwaed ei galon.

Coronog Faban medd doethion Rhufain
A dros for i dir y Dwyrain,
I ddwyn tair Coron ef fydd ar ddamwain
Ac i ddwyn urddas i Ynys Prydain.

Coronog faban a gaiff mawr urddas
Medd hen broffwyd a elwir Gildas,
Yn Rhufain tir ef a wna urddas,
Ai gasogion a syrth mewn anras.

Coronog faban gwedi mawr draha,
Medd Ioannes drei y passia
Ef a gaiff gorfod hyd Gaerdroea,
Ac yn mysg Brenhinoedd ef a fudd penna.

Coronog faban yn ddiammau,
Yn Nhwr Babilon a gyfyd Eglwysau
Brenin coronog fydd yn ddiammau
Gwae'r Twrc a'r Sarsiniaid pan ddel heh ammau.

Coronog faban a gaiff ei gyfarch,
rhag ofn i Loegr gaffael ammharch,
fe ddianc o ddwylo hil Lwarch,
fel y diengis Sionas o fol y morfarch.

Coronog faban wedi mawr drafel,
Dros foroedd a thiroedd a chwedi rhyfel,
fo ai clywir medd yr Archangel,
Yn Nyffryn Siossifath yn y tir isel.

Coronog faban a dan irgyll
At y gwyr sy' yn y Cestyll,
fo gyfyd baner yn ei sefyll,
Gwae Arglwydd Rhaglan penn y Pebyll.


Ag felly y Terfyna
O Lyfr J. Wms. o Lanrwst
gan Owain Jones.


NOTES
"Coronog Faban" is an authentic poem, often attributed to Taliesin (though obviously composed at a much later date), but I have not been able to find an editon other than the ones contained in the Iolo Manuscripts, and thus it is somewhat suspect. However, I compared this version with lines found in Evans' Reports on Manuscripts in the Welsh Language, specifically Peniarth 238, Mostyn 133, Llanstephan 41, and Llanstephan 136, where the first and last lines are provided by Evans, and found that this edition seems to correspond to what he listed, though with the letter "J" replaced by "Si", which might be a modernization by Iolo. If I could find an edition not tained by Iolo I would post it, but I haven't at this time.

SOURCES
Iolo Manuscripts, p. 271-273.