The Celtic Literature Collective

Ymddiddan Arthur a'r Eryr
Jes. MS 3

Llyma yr mod y treythir o englynyon yr eryr

Es ryfedaf kann wyf bard.
o vlaen dar ae vric yn hard.
py edrych eryr py chward.

Arthur bellglot ordiwes.
arth llu llewenyd achles.
yr eryr gynt ath weles.

Ys ryfedaf o tu myr
as gofynnaf yn vyuyr
py chward py edrych eryr.

Arthur bellglot engyhynt
arth llu llew[e]nyd dremynt
yr eryr ath welas gynt.

Yr eryr a seif ymbric dar.
[pei] hanfut o ryw adar
ny byd[ut] na dof na gwar.

Arthur gl[edy]fawc aruthyr
ny seif dy alon rac dy ruthyr
mi yw mab madawc [uab] uthyr.

Yr eryr ny wn dy ryw
a dreigla lgyngoet kernyw
mab madawc uab uthur nyt [byw].

Arthur ieith ****r*lit
***h gwyr * nyt gwaret lit
eliwlat gynt ym gelwit.

Yr eryr golwc diuei
ar dy barabyl nyt oes vei
ae ti eliwlat vy nei.

Arthur dihafarch ffossawc.
diarwrein arllwybrawt
ys gwiw kystlwn o honawt.

Yr eryr barabyl eglur
a dywedy di wrth arthur
beth yssyd drwc y wneuthur.

Medylyaw drwc drwy aferdwl
a hir drigyaw yny medwl.
rygelwit pechawt ardwl.

Yr eryr barabyl diwc.
am a dywedy yn amlwc.
y wneuthur beth yssyd drwc.

Medylyaw brat anghywir
a chelu medwl yn hir.
kwl a phechawt y gelwir.

Yr eryr barabyl tawel
am a dywedy di heb ymgel
beth am peir fford y ochel.

Gwediaw duw pob pylgeint
a damunaw kereifyeint
ac er[chi]* canhorthwy seint.

Yr eryr parabyl doethaf
yttyhun ygouynnaf.
bod crist py delw y haedaf.

Karu duw o bryt vnyawn
ac erchi arch kyfyawn
ath ved nef a bydawl dawn.

Yr eryr gwir euenygi
ys llwyr y gorfynnaf ytti.
ae da gan grist y voli.

Arthur gwryt gadarnaf
arth gwyr gwrodeu pob eithyaf.
pob yspryt molet y naf.

Yr eryr ratlawn blegyt
athovynnaf heb ergryt
pwy yssyd naf ar pob yspryt.

Arthur nyt segur lafneu
rudyeist ongyr yggwaetfreu
crist yw cret vi nam amheu.

Yr eryr ratlawn adef
ath ovynnaf o hyt llef
beth oreu y geissyaw nef.

Ediuarwch am drossed
a gobeth ran dang*nefed
hyñ ath beir yr drugared.

Yr eryr barabyl didlawt
ath ofyñaf arderchawc ardraeithawt
beth waethaf gyt a phechawt.

Arthur arderchawc doeth|ieith
gwedy profer pob kyfyeith
gwaethaf yw barñ añobeith.

Yr eryr barabyl gynyd.
ath ofynnaf dros dofyd
o añobeith beth yssyd.

Haedu hirboen uffernawl
a cholli duw yn dragywydawl
a chael cwymp anesgwrawl.

Yr eryr [i]eith ymadaw
ath lwyr ofynnaf rac llaw
ae gwell dim no gobeithaw.

Arthur arderchawc kyman
or myn eluyd kael kyfran
wrth gadarn gobeithet gwañ.

Yr eryr parabyl kywir
yttyhun y gofynnir
ponyt kadarn perchen tir.

Arthur geldyfawc wy*t
*na choll dofyd yr alaf
y kydernit ywr pennaf.

Yr eryr parabyl diheu
ath ovynnaf ar eireu
ponyt wyf gadarn inheu.

Arthur peñ kadoed kernyw
arderchawc luydawc lyw
y pennaf kydernit y[w] [d]yw.

Yr eryr ieith diarfford
gnawt gogorus ualdord
beth a ryd duw yr gosgord.

Gosgord nyw kywir voli
ac nyt kywir gyfarchei
ny dyt duw vessur arnei.

Yr eryr nefaw[l] dy̴ghet
or ny chaffaf y welet
beth a wna crist yr ae kret.

Arthur wydua llewenyd
wyt lluoessawc argletryd
ty hun dydbrawt ae gwybyd.

Yr eryr geir diamuarn
ath ofynnaf yn gadarn
ae dydbrawt y rodir y varn.

Arthur arderchawc wydua
yth dyd dyffed ny phalla
duw ehun a varn yna.

Yr eryr [barabyl cyhoed]
ath ovyn perchen * toruoed
beth dydbrawt a wna y pobloed.

Arthur arderchawc dam|re
arth gwyr wirodeu heilde
yna y gwybyd pawb y le.

Mi ae gofynneis y goffeiryeit
ac y esgyb ac y y̴gneit
pa beth oreu rac eneit.

Pader a maeyeit a bendigedic gredo
Ae cano rac eneit
hyt angheu goreu gordyfnot.

Ys kyrchych fford a delych
dy allu vyd da dangnofed
nyth didra ar adneu reddruga.

Syberw segur dolur
Ar eu knawt mynet dros vessur
ys dir nychyaw ny bo pur.

Anudon am dir a brat arglwyd
a diuaño dy law gar
dyd | brawt bydawt ediuar.

Ac velly y teruyna eglynyon yr eryr.

Yr eryr barabl difrad,
Os ti ydyw Eliwlad,
Ai gwiw ymladd am danad?

Arthur ddihafarch ateb,
Ni saif gelyn i'th wyneb,
Rhag angau ni ddiainc neb.

Yr eryr iaith ddiymgel,
A allai neb drwy ryfel
Yn fyw eilwaith dy gaffel?

Arthur bendefig haelion,
O chredir geiriau'r Ganon,
A Duw ni thycia ymryson.

SOURCE
Williams, Ifor. "Ymddiddan Arthur a'r Eryr" Bulletin of the Board of Celtic Studies. vol. 2. (1925-25) p. 269-86