The Celtic Literature Collective

Proffwydoliaeth yr Eryr


Llyfr Coch Hergest col. 585-588

[585] Llyma Broffwydolyaeth y eryr ygkaer septon.

Megys y gwrthlad y dreic wenn y goch. Velly y gwrthlad y wenn. ef a hetta y dreic waethaf ac aruthyr. ac o chwythedigaeth y geneu hi a lysc yr [586] holl ynys o fflamawl tan. Ac oe vedeitheu ef yd a hwrd o vrowys gnu. yr hwnn a vynycha a dyrnodeu y gyrn yn y dwyrein. o hwnnw yd a brenhinic o wennwynic olwc. ac rac edrychedigaeth hwnnw yd ergrynant y ffyd ar creuyd. O hwnnw yd a llew yn nessaf yr llchadennawl vrenhinic. yr hwnn y kyfyawnheri gyrdder gwirioned dan y lywodraeth. Y cranc morawl a daw yn nessaf yr llew. gan yr hwnn y difflanna rydit o rydit. gan ymchoelut y keibeu yn waewar. Dannawc uaed coet a uyd yn nessaf yr cranc. yr hwnn a lymha y danned ymywn derw y deyrnas. gan dodi o hwnnw y gyfestytheu ef yn y tewon lwyneu. O odineb y baed hwnnw y genir kynawon y rei a ymchoelant yn eu tat o gwnolyon tameideu. Sarhaet y tat a lad y meibon. Ar kyntaf onadunt ac ef a ysgynne yg goruchelder teyrnas yn deissyut. ac eissoes megys blodeuyn gwannwyn y difflanha. O bechawt y tat y pechant y meibon yn eu tat. ar pechawt blaenhaf achaws yw yr pechodeu wedy ef. Y meibon a gyfodant yn eu tat. ac yr dial y bechawt yr amysgaroed a orchymynnant yn y groth. ef a gyfyt yn wr creulawn. ae annobeith godyant a wnelawr. hyt pan whlho yr hwnn a uo pererin y benyt. Kymriw greduawl a daw y wrth wawr dyd. a hwnnw gan ruthraw yn y dwyrein a diwreida holl deri Iwerdon.Rac y uronn ef y ffleissyant y tywyssogyon. ac y kyt ymlynant garyat tagneued o gledyfawl duundeb. Dolur a ymchoelir yn llewenyd pan ladhont hwy y tat ym bru y uam. Linx a daw o hat y llew. yr hwnn a gywynna y lymder yr haearnolyon yghyt/** nolyon deri. Yn yr hynt hwnnw yd/*** normandi pawb, ac o ryuedd ** gyfnewit y gwehenir y cledyf y wrth y teyrn wialen. O achaws aghyuundeb y brodyr y gwledycha yr hwnn a del or parth draw. Kerbyt y pymhet a droir yn y pedweryd [587] a gwedy dycker y deu gerbyt briawt ymdeith. y kerbyt a drikyo wedy hynny a sathyr y teyrnassoed. Ac yn y diwed diwethaf yr sarff gwynn y gweskerir y hat ef yn teir fford. Y rann ohonaw a tynn yr wlat a elwir ypwyl a gyuoethogir o vrenhinyaeth y dwyrein. Y rann a disgyn y werdon a disrifheir o ardymeredigaeth y gorllewyn. Y tryded rann yn y wlat honno a geffir yn dielw ac yn wac. Tanawl bellen a esgynn y gan y gwynt a elwir eurus. ac a lwnc llydaw yn y chyclh. Ac o oleuat hwnnw yd ehedant adar yr ynys. Ar rei mwyaf onadunt gwedy ennynnu a dygwydant yn daledigaeth. Or tan hwnnw y genir gwrychonen yr honn yd areneigant yr ynyssed oe haruthter. Mwy y gelwir y habsen noe chyndrychawl. gwaeth y gwneir yr eil enkiledigaeth nor gysseuyn. Gwedy marw llew y wirioned y kyuyt brehin gwynn ym brytaen. yn gyntaf aehetto. gwedy hynny a uarchoccao. gwedy hynny a disgynno. ac yn y disgynnu hwnnw yd a ymywn glut. Odyna y dygir ef. ac y dangossir a bys. ac y dywedir mae y brenhin gwynn bonhedic. Yna y kynnullir y vydin ef. ac y kymmerir gwystyl drostaw. ar amser hwnnw y byd ky kyfnewit o dynyon megys o dauat ac eidon ac y kessir iawn. ac ny chyuyt un. ac yd a hyt y lle y dwyre heul. ac yd a heul arall yn y hadef. Gwedy hynny y dywedir ym bryttaen brenhin yssyd. brenhin nyt oes. Gwedy hynny y dyrcheif y benn ac y dengys y uot yn vrenin o lia/***edigaetheu a o liaws atgyweiryat. Ac yna y byd amser y barcutanot. Ar hynn a dreisso pob un a bynneil megys yr eidaw. A hynny a rymhaa seith mlyned. Ac yna y byd amlwc cribdeilodraeth a gordineu gwaet. ac y kyffelybir lliaws ffyrneu y eglwysseu. ar hynn a heo hwnn arall ae met. ac angheu oed well yr truan [588] uuched. a charyat kyuan a uyd rwng odit o dynyon. ar hynn a wnel pob un pryt gosper a tyrr y bore. Odyna y mordwyha kyw ryr y wrth y deheu ar brenholyon ueirch. ac ar ewinawc tonnyar y mor. ac y daw y vryttaen yr tir. a thy yr eryr yn y lle a oresgyn. Ac odyna blwydyn a hanner y byd ryuel ymbryttaen. yn yr amser hwnnw ny thal y kyfnewitwyr dim. namyn pob un a prydera pa wed y kattwo yr eidaw ehun. ac y keisso petheu ereill. Odyna yd a y brenhin gwynn bonhedic parth ar gorllewin. ac yn gylchynnedic oe vydin ef geir llaw dwfyr rydegawc henlle. Yn yr amser hwnnw y kyuaruydant y alon ac ef. ac y diwedheir yn y gylch ef pob un. Ac y ffuryfheir llu y alon ar weith taryan. Ac yna oc eu taleu ac oc eu hystlysseu yn gyffelyb yd ymledir. Ac yna y brenhin gwynn bonhedic a lithyr yn yr awel. Odyna kyw eryr a wna y nyth yg goruchelder kerric holl vryttaen. a hwnnw ny ledir yn ieuanc. ac ny daw ynteu ar heneint. Ac yna ny diodef gogonedus uoleitrwyd gynnic sarhaet idaw ef. yr hwnn a lad ar teyrnas dangeuedus.

SOURCE:
Anonymous. "Proffwydoliaeth yr Eryr. ed. by Henry Lewis. BBCS.

Back to the Red Book of Hergest
Back to Welsh Texts
Back to CLC