The Celtic Literature Collective

Eiry Mynyd
Jes. MS 111 (Llyfr Coch Hergest)
col. 1028-1029

Eiry mynyd gỽynn pob tu: kynneuin
bran achanu; nydaỽ da o drachyseu,
Eiry mynyd gỽynn keunant; rac ruthur
gỽynt gỽyd gỽyryant; ỻawer deu aymgarat;
aphyth ny chyfuaruydant,
Eiry mynyd gỽynt ae taỽl; ỻydan ỻoergan
glas tauaỽl: odit dyn dirieit dihaỽl,
Eiry mynyd hyd escut; gnaỽt ymprydein
gynrein drut; reit oed deaỻ yaỻtut,
Eiry mynyd hyd ardes; hỽyeit ynỻyn gỽynn
aches; hỽyr hen haỽd y ordiwes~
Eiry mynyd hyd ardro chwerdyt bryt ỽrth
agaro: kyt dywetter ỽrthyf chwedyl. mi a
atwen veuyl ỻe y bo,
Eiry mynyd graennwyn gro; pysc yn ryt clyt
y ogo; kas vyd a oreilytto,
Eiry mynyd hyd ar daryaf; gnaỽt gan gyn-
ran eiryan araf; ac ysgynnu o du corof: a
disgynnu bar ar araf,
Eiry mynyd hyd kyngrỽn; ỻawer adywede-
is os gỽnn; an hebic y hafdyd hỽnn,
Eiry mynyd hyd heỻaỽt: gochwiban gỽynt y-
ỽch bargaỽt; tỽr trỽm aỽr yỽ pechaỽt,
Eiry mynyd hyd arneit gochwiban gỽynt
yỽch gỽenbleit; uchel gnaỽt taỽel yndeleit.
Eiry mynyd hyd ymbro; gochwiban gỽynt
yỽch blaen to. nyt ymgel drỽc ynỻe y bo,
Eiry mynyd hyd ar draeth; coỻyt hen y uab-
olaeth; drycdrem awna dyn yngaeth,
Eiry mynyd hyd ynỻỽyn; purdu bran buan
jyrchwyn; iach ryd ryuedot pa gỽyn,
Eiry mynyd hyd myỽn brỽyn oer micned
med ygherwyn; gnaỽt gan bob anauus gỽyn,
Eiry mynyd brith bronn tỽr: kyrchyt aniueil
glydỽr; gỽae wreic a gaffo dryc wr,
Eiry mynyd brith bronn kreic; krin kalaf
alaf dichleic; gỽae ỽr agaffo drycweic,
Eiry mynyd hyd yn ffos; `kytuyt ỻeidyr ahir
nos; `kysgyt gỽenyn yndidos
Eiry mynyd kynglhennyd auon; hỽyrweda-
ỽc yngkynnyd; ny moch dieil meuyl meryd,
Eiry mynyd pysc ynỻynn; balch hebaỽc bacỽy-
aỽc unbynn; nyt ef ageiff ageiff paỽb auynn,
Eiry mynynyd coch blaen pyr; ỻidiaỽc ỻuossaỽc

[1028]

=========================================

ongyr och rac hiraeth vymrodyr ~
Eiry mynyd buan bleid; ystlys diffeithỽch adreid;
gnaỽt pob anaf ardieid,
Eiry mynyd hyd nyt hỽyr; dygỽydyt glaỽ o awyr,
megyt tristit ỻeturyt ỻwyr,
Eiry mynyd eilion ffraeth: gowlychyt tonneu
glantraeth; keluyd kelet y aruaeth,
Eyry mynyd hyd myỽnglynn: gỽastat uyd haf
araf ỻynn; baryflỽyt reỽ gleỽ yerchwynn,
Eiry mynyd brith bronn gỽyd; kadarn vymre-
icham ysgỽyd; eidunaf na bỽyf gann mlỽyd.
Eiry mynyd ỻỽmm blaenn caỽn; crỽm blaen
gỽrysc pysc yn eigyaỽn. ỻe ny bo dysc ny byd daỽn,
Eiry mynyd pysc ynryt: kyrchyt carỽ culgrỽm
cwm clyt; hiraeth am uarỽ ny weryt.
Eiry mynyd hyd ygkoet; ny cherda detwyd ar-
troet. meckyt ỻỽuyr ỻawer adoet.
Eiry mynyd hyd ymbronn: gochwiban gỽynt
yỽch blaen onn; trydyd troet y hen y ffonn.
Eiry mynyd hyd aranỽ: hwyeit ynỻynn gỽyn
alaỽ. diryeit nymynn gỽarandaỽ,
Eiry mynyd coch traet ieir bas dỽfyr mynyt
leueir; chwenneckyt meuyl maỽreir,
Eiry mynyd hyd esgut; odit amdidaỽr orbyt.
rybud y drỽch ny weryt,
Eiry mynyd gỽynn to tei; beitraethei dauaỽt
awypei geudaỽt; ny bydeigymydaỽc neb rei.
Eiry mynyd dyd acdooeth; bit glaf pob trỽm ỻỽm
ỻetnoeth; gnaỽt pob anaf ar anoeth,

[1029]

SOURCE:
Poetry from the Red Book of Hergest. ed. by J. Gwenogvryn Evans. Llanbedrog, 1911.


Back to the Red Book of Hergest
Back to Welsh Texts
Back to CLC