The Celtic Literature Collective

From Vortigern to King John
Red Book of Hergest col. 1020-1022

O oes gwrtheyrn gwrtheneu ht weith badwn yd ymladawd arthur aehyneif ar sasson ac y goruv arthur ae hyneif wyth mlyned arhugeint a chant. O weith badwn hyt gamlan. dwy vlyned arhugeint. O gamlan hyt varw maelgwn. deg mlyned. O varw maelgwn hyt weith arderyd pan las gwrgi a pharedur. seithmlyned. Orpan las gwrgi apharedur. hyt weith veigen. pedier blyned ardec. O weith kaerlleon. naw mlyned. O weith kaer lleon hyt weith veigen. pedeir blyned ardec. O weith veigen yny aeth kadwaladyr vendigeit y ruuein. wyth mlyned adeugeint. O gadwaladyr hut offa vrenhin. wyth mlyned arhugeint a chant. O offa yny losges tan o nef degannwy yn oes owein vab maredud. vgein mlyned. Or pan losges y dywededic dan degannwy hyt varw meruyn vrych. teir blyned ardec arhugeint. O veruyn yny las rodri y vab. seith mlyned arhugeint. O rodri yny dialawd anarawt y vab ef. teir blyned. O weith conwy. yny las meruyn vab Rodri: dwy vlyned ar bymthec. O varw meruyn hyt varw kadell vab Rodri. degmlyned. O varw cadell hyt varw anarawt: chweblyned. O anarawt yny aeth howel vab kadell y ruuein. teirblyned arbymethc. Or panaeth howel y ruuein yny vu varw: vn vlwydyn eisseu o ugein. O varw howel hyt weith carno. seith mlyned. O garno hyt weith meibyon Idwal. vn vlwydyn. O weith meibyon idawl yny vu varw owein [1021] vab howel da. pedeir blyned arhugeint. O varw owein yny wledychawd cnut vab owein: seith mlyned arhugeint. O gnut vrenhin hyt vachawy yny oruu ruffud vab llywelyn. ac y llas efbog y saesson. dwy vlyned adeugeint. Oweith machawy yny las gruffud. naw mlyned Or pandeoth crist ygknawt hyt y vlwydyn honno. pymtheg mlyned a deugeint amil. Or pan las gruffud yny doeth gwilym bastard yr ynys honn. pum mlyned. Ac vn vlwydyn arhugeint y gwledychawd. O wilym bastard yny las bledyn vab kynvyn. seith mlyned. Ovledyn hyt weith mynyd carn. chweblyned. Gruffud vab kynan a rys vab tewdwr aoruuant yna ar * drahaern vab karadawc. o weith mynyd karn ynylas rys vab tewdwr. teir blyned ardec. Or pan las Rys yny las gwilym vrenhin coch. seith mlyned atheir ardec y gwledychawd. Or brenhin coch. hyt varw caradawc vynach. pum lyned arhugeint. O garadawc hyt varw kadwallawn vab gruffud. ac y bu uarw Maredud vab bledyn. wyth mlyned. Or pandoeth crist ygknawt hyt y blwydyn honnno : teir blyned ardec harguteint a chant. a mil. Or pan las kadwallawn hyt pan dorres owein a chadwaladyr aber teiui. chweblyned. Or pan dorret aber teiui yny las y freingk yn tal moelvre. vgein mlyned. O ymlad tal moelvre yny dalywyt y gwystlon ygkoet keiryawc. wyth mlyned. O ymlad moet keiryawc yny dorres owein a chadwaladyr rudlan. dwy vlyned. Or pan dorret rudlan yny vu varw owein. pum mlyned. O wyl clemens hyt yn nos ynyt a blwydyn y bu varw cadwalwadyr wedy owein. Or pan vu varw owein. yny anet llywelyn vab Iorwerth dwy vlyned a hanner. Or pan anet llywelyn yny las owein vab Madawc ar ymlad gwern yvinogyl. pedeir blyned ardec. Or pan las owein vab madawc hyt haf y gwydyl. seith [1022] mlyned. Y vlwydyn rac wyneb y bu vrwydyr y coettaneu. Y dryded vlwydyn y bu uarw Rodri vab owein. O haf y gwydyl hyt gastell paen pum mlyned. Y gaeaf rac wyneb y torres llywelyn yr wydgruc. Dwy vlyned wedy kastell paen y bu varw gruffud vab kynan. Y vlwydyn gwedy marw gruffud y bu varw davyd vab owein. Or pan vu varw davyd vab owein yny wahardwyt offerenneu dros loegyr achymry o annuudeb leuan vrenhin ac ystyfyn archescob keint: pum mlyned. Ar gwahard lwnnw a vu seith mlyned dros loegyr. a phump dros gymry. Yny vlwydyn nessaf yr gysseuin vlwydyn ygwahardwyt yr offereneu dros loetyr achymry. yd aeth llywelyn vab Iorwerth. a howel vab gruffud y gyt a Ieuan vrenhin Lloegyr hyt yn ruuein * y darostwng y brenhin y Ieuan vrenhin lloegyr. Nos wyl symon a Judas yny vlwydyn honno y doeth ystiwart llys brenhin llychlyn heralt pic oed y enw. a chwech herwlong ganthaw hyt y llann vaes. ac yspeilyaw ydref ae llosgi. Ac y llas heralt pic ae oreugwyr. Y vlwydyn rac wyneb yd aeth Ieuan vrenhin y Iwerdon. ac y doeth rondwlff Iarll kaer y degannwy yn erbyn Ieuan vrenhin.

SOURCE
Fychan, Hywel. The text of the Bruts from the Red book of Hergest. edited by John Rhys and J. Gwenogvryn Evans. Oxford: J.G. Evans, 1890.


Back to Red Book of Hergest
Back to Welsh Texts
Back to CLC