The Celtic Literature Collective

Kyssul Adaon Llan. 27, 163 b. (Llyfr Coch Talgarth)

Kyssul Adaon ynt yr englynyon hynn.

Meckyt Meir mab yn y bru
Mat ganet yr ae kanvu
Llwybyr huan llydan y deulu.

Meckyt Meir mab yn y chynnes
Mat ganet yr ae gweles
Llwybyr huan llydan y drachwres.

Meckyt Meir mab aduwyndawt
Du penn perchen pob kiwdawt
Y that y neirthyat y brawt.

Meckyt Meir mab ac urdyn y arnaw
Ny threis neb y deruyn
Kein gyfreu nyt ieu nyt hyn.

Ny wyr ny bo kyfarwyd
Ual y deiryt Meir y gulwyd
Y mab y that y harglwyd.

Gwnn ual y deiryt Meir kyt bwyf daerawl prud
Yr drindawt ysprydawl
J mab ae brawt knawdawl
Ae that arglwyd mat meidrawl.

Mi ae gofyneis y offeireit byt
Ae esgyb ae yngneit
Pa beth oreu rac eneit?

Pader a bwyeit a bendigeit gredo
Ae cano yn anhonneit
Da hanes hwnw ar les eneit.

Dyro dillat y noeth a bwyt y newynawc
A chenych olochwyt
O gyfyl dieuyl y dodwyt.

Na vyd var vynych na chwennych gyfyrdan
Na wna ogan yn yt vych.
Kyssul ath rodaf kadw kedwych
Kadw dy bwyll twyll na chwennych.

Kyssul ath rodaf nac anrefna dy ty
A phryn tra vlingylch
Treu yth tut golut a geffych.

Kyssul ath rodaf na vit afrwyd gennyt
Ac amwarandawyr
Na chabyl na treidwyr.

Na lad dyn na lesteiryaw arnaw
Na chawd dy duw ny dwyfa
Ony mynny drwc gwna da.

Kyt bo da daear nyt dilys
Y neb y chwerw y velys
Meint a dof ac a ys.