The Celtic Literature Collective

Ymddiddan rhwng Arthur a Gwenhwyfar
AKA: Ymddiddan Melwas a Gwenhwyfar
Llan. 122, 426.

1. Dv yw fy march ada dana
ag er dwr nid arswyda
a rhag vngwr ni chilia.

2. Glas yw fy march o liw y dail
liwyr ddirmygid . . . . . . . .
nid gwr ond a gywiro el air.

3. . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . ymlaen y drin
nid deli gwr ond Cae Hir ap Sefin.

4. Myfi a ferchyg ag a sai
ag a gerdda yn drwm gan lan trai
myfi yw’r gwr a ddaiia Gai.

5. Dyd was, rhyfedd yw dy glowed
onid wyd amgen noth weled
ni ddalid Gai ar dy ganfed.

6. Gwenhwyfar olwg Eirian [427]
na ddifrawd fi cyd bwy bychan
mi a ddaliwn gant fy hvnan.

7. Dyd was o ddv a melyn
wrth hir edrych dy dremyn
tybiais dy weled cyn hyn.

8. Gwenhwyfar olwg wrthroch
doedwch i mi os gwyddoch
ymha le cyn hyn im gwelsoch.

9. Mi welais wr graddol o faint
ar fwrdd hir. . . dyfnaint
yn rhannv gwin iw geraint.

10. Gwenhwyfar barabl digri
cnawd o ben gwraig air gwegi
yno y gwelaist di fi.


Source
Jones, Evan D. "Melwas, Gwenhwyfar, a Chai". BBCS. vol.8., pt.3. 1936.