The Celtic Literature Collective

Urien a Modron
Peniarth 147

Yn Sir ddinbych y mae plwyf a elwir llan verrys ag yno y mae Ryd y gyfarthfa. Ag ynyr hen amser y doe gwn y wlad y gid y lan y Ryd hono y gyfarth. Ag nyd oedd y fentre vyned y sbio beth oedd yno nes dyfod urien Reged. A ffyn doyth y lan y Ryd [n]y wlel yno ddim ond merch yn golchi ag yno tewi or kwn ar Cyfarth ag ymhafel o urien Reged ar verch ag ymweithredy a hi. Ag yna y dwad hithe bendith ddyw ar y traed yth ddygoedd yma pam heb y[nte] achos bod ynhyngedfen i olchi yma nes enill m[ab] o griston. A merch wyfi y vrenin anyfwn a dyred di yma am. Ben y flwyddyn ag di y gay y mab ag velly y dayth ynte ag y Cafas yno vab amerch nyd amgen noc owein ab urien a morfydd verch urien.