The Celtic Literature Collective

Y Creaduriaid Hirhoedlog

Eryr Gwernabwy, wedi bod yn hir yn briod a'r Eryres, a bod iddo lawer o blant o honi, a'i marw hi, a bod o hono yntau yn hir yn weddw, a aeth i briodi gyda Dallhuan Cwmcawlyd. Ond rhag iddo blant o honi, a dirywio o'i rywogaeth, efe a aeth yn nghyntaf at Hynafiaid y Byd i ofyn ei hoedran hi. Ac yn nghyntaf, efe a aeth at Garw Rhedynfre, ac a'i cafodd yn gorwedd wrth hen geltffinen o dderwen, ac a ofynodd iddo oedran y Ddallhuan. Y Carw a'i hatebodd, "Mi a welais y dderwen hon yn fesen y sy yr awrhon ar lawr heb na dail na rhisgl arni; ac ni bu arni draul yn y byd, ond fy mod I yn ymrwbio ynddi bob dydd wrth godi, ac ni welais I erioed y Ddallhuan yn hy^n nac iau nag ydyw heddyw; ond y mae un sydd yn hy^n na myfi, a hwnw ydyw Gleisiad Glyn Llifon."

Aeth yr Eryr at y Gleisiad, a holodd yntau, ac efe a atebodd, "Mi a wn fy mod I yn flwydd oed am bob gem sydd ar fy nghroen, ac am bob gronyn sydd yn fy mol, ac ni welais I erioed mo'r Ddallhuan ond yr un modd! Ond y mae un sydd hy^n na mi, a hwnw ydyw Mwyalchen Cilgwri."

Yr Eryr a aeth i edrych am y Fwyalchen, a chafodd ef yn eistedd ar gareg fechan, ac a roddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ebai y Fwyalchen, "A weli di y gareg yma sydd danaf?—nid ydyw fwy nag a fedr dyn gario yn eilaw, ac mi a'i gwelais yn llwyth cant o ychain! ac ni bu arni draul erioed, ond fy ngwaith I yn sychu fy mhig arni bob nos, ac yn taro blaen fy adenydd ynddi wrth ymgodi yn y bore, ac nid adnabum I y Ddallhuan na hyu nac iau nag ydyw hi heddyw. Ond y mae un hy^n na myfi, a hwnw ydyw Llyffant Cors Fochno; ac oni wyr hwnw ei hoedran hi nis gwyr neb."

Yna aeth yr Eryr at y Llyffant, a rhoddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ac efe a atebodd, "Ni fwyteais I ddim erioed ond a fwyteais o'r ddaear, ac ni fwyteais haner fy nigon o hono, ac a weli di y ddau fryn yna sydd wrth y gors?—mi a welais y fan yna yn dir gwastad, ac ni wnaeth dim hwynt cymaint ond a ddaeth allan o'm corph I, a bwyta cyn lleied; ac nid adnabum I erioed mo'r Ddallhuan ond yn hen wrach yn canu 'tw-hw-hw,' ac yn dychrynu plant gyda'i llais garw, fel y mae heddyw."

Felly Eryr Gwernabwy, a Charw Rhedynfre, a Mwyalchen Cilgwri, a Gleisiad Glyn Llifon, a Llyffant Corsfochno, a Dallhuan Cwmcawlyd, ydynt y rhai hynaf yn y byd oll.

SOURCES
Cymru Fu. pp. 172-173

I believe this may be Thomas Wiliems' version of "The Oldest Animals", based on the inclusion of the toad. It differs from the version in the Iolo MSS., so I believe it is probably authentic.