The Celtic Literature Collective

Breudwyt Ronabwy
Llyfr Coch Hergest

Rheolai Madawg fab Maredudd Bowys o ffin i ffin, sef o Borffordd hyd y Waun ym mhen uchaf Arwystli. Ac yn yr oes honno 'roedd ganddo frawd — ond nid oedd o gyfartal safle ac ef. A hwnnw oedd Iorwoerth fab Maredudd. Ac ef a oedd mewn gofid a thristwch mawr o weld yr anrhydedd a'r meddiannau a oedd i'w frawd — ac yntau heb ddim. Fe ymgeisiodd ei gyfeillion a'i frodyr maeth i ymgynghori hwynt beth a allai wneud am hyn. A'r hyn a gynghorasant — y dyliai adael rhai ohonynt fynd i geisio cynhaliaeth iddo. Yna cynigiodd Madawg y benteuluaeth iddo a chystal fraint ag ef ei hun, a meirch ac arfau ac anrhydedd. Ond gwrthododd Iorwoerth hyn ac aeth ar herw i Loegr gan ladd gelynion, llosgi tai, a dal carcharorion — hyn a wnaeth Iorwoerth.Ymgynghorodd Madawc â gwŷr Powys. Penderfynodd osod can gwŷr ym mhob un o dri cwmwd Powys i'w ymgeisio [Iorwoerth]. A gwnânt hyn ar hyd dir âr Powys — o Aber Ceiriog yn Hallictwn hyd Rhyd Wilfre ar Efyrnwy, y tri cwmwd gorau oedd ym Mhowys. Ac ni fyddai tir a meddiannau gan unrhyw un ŵr o'r teulu ond yn y rhychdir. A hyd Dillystwn Trefan yr ymrannodd y gwŷr hyn.

Ac yr oedd gŵr ar y cais hwn a elwid Rhonabwy. A daeth Rhonabwy a Chynnwrig Frychgoch, gŵr o Fawddwy a Chadwgawn Fras, g&x0175;r o Foelfre yng Nghynlleith i dŷ Heilyn Goch fab Cadwgan fab Iddon i letya. A phan daethant yn agos i'r tŷ gwelsant hen neuadd tywyll gyda thalcen unionsyth a mŵg mawr yn dod ohono. A phan ddaethant i fewn gwelsant lawr pridd tyllog ac anwastad a ble gwelid twmpath arno prin y gallai dyn aros ar ei draed mor llithrig oedd y llawr gyda thail a phiso gwartheg. Yn y lle y byddai bant diflannai droed dyn hyd ei fwnwgl dan gymysgfa o ddŵr a phiso gwartheg. Gwasgarwyd gwlydd celyn yn aml ar y llawr a brîg y rhain wedi eu pori gan y gwartheg. A phan ddaethant i is-gyntedd y tŷ gwelsant raniadau moel a gwrach yn porthi tân ar y naill ochr. A phan ddoi oerni arni fe daflai llond arffed o fân us ar ben y tân gan greu mwg na ellid brin ei ddioddef gan ddyn byw fel yr ai i fewn i'w ffroenau. Ac ar yr ochr arall gwelsant groen melyn llo unflwydd ar y llawr. A braint a fyddai gan yr un a âi ar y croen hwnnw.

Ac wedi eistedd gofynasant i'r wrach pa le oedd dynion y tŷ ond ni ddywedodd hi ddim wrthynt ac eithrio anfoesgarwch. Ac ar hynny, wele, daeth pobol y tŷ — gŵr coch hanner-moel rhychgroen a baich o lwyddyn ar ei gefn. Gydag ef 'roedd gwraig tenau gwelw â baich o dan ei chesail. Ni chroesawant y gwŷr ond yn oeraidd, cyn cynnal tân iddynt â'r llwyddyn a wnaethpwyd cyn i'r wraig fynd i bobi, cyn dyfod a bwyd iddynt — bara cras haidd a chaws a dŵr a llefrith yng nghymysg. A gyda hyn, wele cyfodiad o wynt a glaw hyd nad oedd yn hawdd i neb fyned ymaith. Ac oherwydd y blindod a achoswyd gan eu taith, gorwedd a wnaethant a cheisio cysgu. A phan edrychasant ar y llwyfan nid oedd arno ddim ond gwellt byr llychlyd, chweinllyd, gyda chynifer o fônau gwrysg trwyddo a'r gwellt uwch eu pennau ac is eu traed wedi ei fwyta gan y gwartheg. Carthen frith llwydgoch caled treuliedig tyllog a daenwyd arno, a llen bras-dyllog llawn chwain ar ben y garthen a chlustog led-wag a chasyn braidd yn fudr iddo ar ben y llen. Ac i gysgu yr aethant. Er y poendod o'r chwain a'r anesmywthder disgynnodd ddau gydymaith Rhonabwy i gwsg trwm. A Rhonabwy, gan na allai gysgu na gorffwys, dyfalu a wnaeth y buasai'n llai poenus iddo fynd ar groen melyn y llo unblwydd i gysgu. Ac yno y cysgodd.

A chyn gynted ac y doeth hun i'w lygaid cafodd weledigaeth ei fod ef a'i gydymdeithion yn cerdded ar draws Maes Argyngroeg ac o'i gyfeiriad ac agwedd y wlad tybiai ei fod yn mynd tua Rhyd-y-Groes ar Hafren. Ac fel y cerddodd clywai dwrw, ac ni glywsai ei fath erioed o'r blaen. Ac wrth edrych yn ôl gwelodd facwy â gwallt cyrliog melyn a'i farf newydd ei eillio ac yntau ar farch castan. Ac o ben ei ddwygoes ôl hyd gluniau'r coesau blaen 'roedd bol y march yn llwyd. A chôt o sidan melyn a wisgai'r marchog a hwnnw wedi ei wnïo ac edafedd gwyrdd. Ar ei glun 'roedd cleddyf eurddwrn a gwain o ledr Cordofaidd newydd iddo a charrai o ledr carw am ei ysgwydd i ddal y wain, a chlesbyn o aur ar hwnnw. Ac am ben hwn gwisgai len o sidan melyn wedi ei wnïo a sidan gwyrdd ac ymylon y llen hefyd yn wyrdd, ac roedd y darnau gwyrdd o wisg y marchog a'i farch cyn wyrdded a dail y binwydden a'r darnau melyn o'r wisg a oedd cyn felyned a blodau'r banadl. Ac mor ffyrnig yr edrychai y marchog fel y daliasant ofn a dechreuasant ffoi. A'u herlid wnaeth y marchog. A phan wthiai y march ei anadl allan pellhau oddi wrtho wnaeth y gw±r. A phan dynnai anadl i fewn nesáu ato daeth y gwŷr, nes cyrraedd bron y march. A phan yr oddiweddwyd hwy, ymbilio nawdd a wnaethant iddo:

'Chwi a'i cewch yn llawen, ac na fydd ofn arnoch,' [meddai'r marchog]

'Ha, arglwydd, gan roddaist nawdd i ni, a ddywedi wrthym pwy wyt?' medd Rhonabwy.

'Ni guddiaf fy mherthynas oddi wrthyt, Iddawg mab Mynyo. Ond nid o'm enw fy'm adnabyddid fwyaf — sef o'm llysenw.'

'A ddywedi wrthym beth yw dy lysenw?'

'Dywedaf... Iddawg Cordd Prydain fe'm gelwir.'

'Ha, arglwydd,' medd Rhonabwy, 'paham y'th elwir yn hyn?'

'Mi a ddywedaf paham wrthyt... 'roeddwn yn un o'r cenhadon ym mrwydr Camlann a oedd rhwng Arthur a Medrawd ei nai. A g&x0175;r ifanc bywiog oeddwn i yno, ac oherwydd fy chwant am frwydr achosais gythrwfl rhyngddynt. Sef y cynnwrf a achosais, pan fy ngyrwyd gan yr ymerawdwr Arthur i fynegi i Fedrawd ei fod yn dad maeth ac yn ewythr iddo ac i ymbil heddwch rhag lladd meibion arweinwyr Ynys Prydain a'u boneddigion. A phan ddywedodd Arthur yr adroddiad tecaf a allai wrthyf ail-adrodd hyn cyn hagred ac y gallwn a wneuthum i Fedrawd. Ac oherwydd fe'm enwyd innau yn Iddawg Cordd Brydain. Ac oherwydd hyn fe ddosbarthwyd rhengau'r milwyr yng Nghamlann. Ond, er hynny, tair noson cyn diwedd brwydr Camlann fe ymadewais hwynt a deuthum i Lech Las ym Mhrydyn i ediferi. Ac yno y bum am saith mlynedd yn ediferi. A thrugaredd a gefais'

Ar hynny, wele, clywsant dwrw a oedd yn fwy o lawer na'r stŵr a glywsant gynt. A phan edrychasant tua chyfeiriad a sŵn, wele, gwas melyngoch ifanc heb farf a heb fwstas, a phryd arglwydd arno, ac yntau ar gefn march mawr. Ac o ben ddwy ysgwydd y march i lawr hyd ei ddwy ben glin 'roedd ei ochr isaf yn felyn. Ac 'roedd gwisg am y gŵr o sidan coch wedi ei wnïo â sidan melyn ac 'roedd ymylon y llen yn felyn. Ac 'roedd y rhan melyn o'i wisg ef a'r march cyn felyned a blodau'r banadl ac 'roedd y rhannau coch cyn goched a'r gwaed cochaf yn y byd. Ac yna, wele, enillodd y marchog arnynt a gofynnodd i Iddawg a gawsai ran o'r dynion bychain hyn a oedd gydag ef.

'Y rhan sydd yn weddus i mi ei roi, mi a'i roddaf; bu yn gydymaith iddynt fel y bûm innau.'

A hynny a wnaeth y marchog, a mynd ymaith.

'Iddawg,' meddai Rhonabwy, 'pwy oedd y marchog yna?'

'Rhufawn Bebyr mab Deorthach Wledig.'

Ac yna cerddasant ar draws faes mawr Argyngroeg hyd Rhyd-y-Groes ar Hafren. A milltir oddi wrth y Rhyd gwaelasant letai unnos a phebyll ar bob ochr y ffordd ac 'roedd cyffro o lu mawr. Ac i lawr i'r Rhyd y daethant. A gwelsant Arthur yn eistedd mewn dôl gwastad islaw y Rhyd ac ar un ochr iddo 'roedd yr esgob Bedwin ac ar yr ochr arall Gwarthegydd fab Caw. Ac o'i flaen 'roedd gwas tal gwineugoch â cledd yn ei wein o fewn ei law a gŵn a mantell llwyr-ddu amdano. 'Roedd ei wyneb gyn wynned ac ifori'r eliffant a'i aeliau cyn ddued a muchudd. Ac 'roedd hyn a welid o'i arddwn, rhwng ei faneg a'i lewis, yn wynnach na'r lili a mwy trwchus oedd na meinfan coes milwr. Ac yna daeth Iddawg, a hwynt gydag ef, o flaen Arthur a'i gyfarch ac anrhydedd.

'Duw a'th ffynni.' meddai Arthur. 'Ym mhle, Iddawg, y cefaist y dynion bychan hyn?'

'Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd.'

A gwenu'n oeraidd wnaeth yr ymerawdwr.

'Arglwydd,' meddai Iddawg, 'paham y chwarddi?'

'Iddawg,' meddai Arthur, 'nid chwerthin a wnaf ond truaneddu fod dynion cyn waeled a hyn yn gwarchod yr ynys hon ar ôl cystal wŷr a'i gwarchododd cynt.

Ac yna dywedodd Iddawg: 'Rhonabwy, a weli y fodrwy a'r garreg ynddi sydd ar law yr ymerawdwr?'

'Gwelaf,' medd ef.

'Un o rinweddau'r garreg yw i roi atgof i ti o'r hyn a welaist heno; ac os na fyddit wedi gweld y garreg yna ni ddoi gof i ti o ddim a ddigwydd yma.'

Ac wedi hyn gwelodd fyddin yn dyfod tua'r Rhyd.

'Iddawg,' meddai Rhonabwy, 'gwŷr pwy yw y fyddin acw?'

'Cydymdeithion Rhufawn Bebyr mab Deorthach Wledig. A'r gwŷr acw a gawsant gyflog o fedd a chwrw â mêl bragedig a gawsant ardderchu merched arweinwyr ynys Prydain yn ddilestair. A hyn oedd yn ddyledig iddynt gan, ym mhob brwydr, 'roeddynt bob tro ar flaen y garfan.'

Ac ni welid liw arall ymysg y fyddin honno — nid ar ŵr nac ar farch — ac eithrio eu bod cyn goched a gwaed. A phan wahanodd un o'r marchogion oddi wrth y fyddin 'roedd yn debyg i golofn o dân yn codi i'r awyr. A'r fyddin honno a wersyllodd uwchlaw y Rhyd.

Ac ar hynny y gwelsant fyddin arall yn dyfod tua'r Rhyd. Ac o gorf flaen cyfrwy y meirch i fyny 'roeddent gyn wynned a'r lili ac o'r fan honno l lawr 'roeddent cyn ddued a'r machlud. A gwelsant farchog yn rhagflaenu ac yn ysbarduno ei farch i'r Rhyd gan dasgu y dŵr am ben Arthur a'r esgob a'r rhai hynny oedd yn ymgynghori â hwy nes yr oeddynt cyn wlyched a phe ymdrochasant yn yr afon. Ac fel yr oedd yn troi pen ei farch trawodd y gwas a oedd yn sefyll o flaen Arthur y march yn ei ddwy ffroen â'r cleddyf gweineddig yn ei law — a rhyfeddod o ryfeddodau — pe drawyd y march a dûr noeth fe fuasai'n gyfethach niweidio'r asgwrn yn ogystal a'r cnawd. A thynnu ei gleddyf hyd at hanner y wein a wnaeth y marchog cyn gofyn i'r gwas:

'Paham y trewaist fy march: ai fel amharch i mi, neu fel cyngor arnaf?'

'Rhaid oedd i ti gael cyngor. Pa ffolineb a wnaeth i ti farchogaeth mor fyrbwyll fel i dasgu dŵr o'r Rhyd am ben Arthur a'r esgob cysegredig â'u cynghorwyr nes 'roeddent cyn wlyched ac y buasent pe'u tynnwyd o'r afon?'

'Minnau a gymeraf hyn fel cyngor.'

A dychwelodd pen ei farch drachefn tua'i fyddin.

'Iddawg,' medd Rhonabwy, 'pwy oedd y marchog yna?'

'Y gwas ifanc mwyaf huawdl a doeth sydd yn y deyrnas hon, Addaon fab Telesin.'

'Pwy oedd y gŷr a drawodd ei farch?'

'Gwas cadarn brwdfrydig, Elphin fab Gwyddno.'

Ac yna y llefarodd gŵr balch hardd, ac ymadrodd ffraeth hyderus ganddo, ei fod yn rhyfedd cynnwys llu cymaint a hwn mewn lle mor gyfyng a hyn, ac 'roedd yn rhyfeddach fyth ganddo fod yno, yr awr hon, filwyr a oedd wedi gaddo y buasent ym mrwydyr Baddon erbyn hanner dydd i ymladd ac Osla Gyllellfawr.

'Pa un yw dy ddewis di,' [arglwydd], 'i fynd, neu beidio mynd? Fe a af.'

'Gwir a ddywedi,' medd Arthur, 'a cherddwn ninnau ynghyd.'

'Iddawg,' meddai Rhonabwy, 'pwy yw y gŵr a siaradodd mor ddi-aruthredd wrth Arthur ac a ddywedodd y gŵr gynnau?'

'Gŵr a ddylai siarad mor hyderus ac y mynnai wrtho — Caradog Feichfras mab Llŷr Marini, ei brif gynghorwr a'i gefnder.'

Oddi yno cymerodd Iddawg Rhonabwy y tu ôl iddo ar sgîl ei farch a cychwynnodd y llu mawr hwnnw, pob catrawd yn ei gywir drefn, hyd Cefn Digoll. Ac wedi iddynt ddod i grombil Rhyd yr Hafren trodd Iddawg pen ei farch tua'i gefn ac edrych a wnaeth Rhonabwy ar ddyffryn Hafren. Gwelodd ddwy fyddin foneddigaidd yn dod tua Rhyd yr Hafren. A byddin glaerwyn yn dyfod â llen o sidan gwyn am bob un ohonynt ac ymylau'r rhain yn berffaith ddu. Ac o bennau eu gliniau blaen hyd pennau eu coesau 'roedd y meirch yn ddu bûr, a gweddill y meirch yn llwyd olau sef hyn. Ac 'roedd eu llumanau yn wyn pûr heblaw eu blaenau du.

'Iddawg,' meddai Rhonabwy, 'pa rai yw'r fyddin burwen acw?'

'Gwŷr Llychlyn ydynt, a March fab Meirchion sydd yn dywysog arnynt. A chefnder Arthur yw hwnnw.'

Yna gwelodd fyddin a gwisg burddu am bob un ohonynt ac ymylon eu llenni'n glaerwyn. Ac o bennau eu gliniau hyd pennau eu coesau 'roedd y meirch yn glaer wyn. Ac 'roedd eu llumanau yn burddu ac eithrio blaen pob un ohonynt a oedd yn glaerwyn.

'Iddawg,' meddai Rhonabwy, 'pa rai yw'r fyddin burddu acw?'

'Gwŷr Denmarc, ac Edern fab Nudd yw eu tywysog.'

A phan gyraeddasant y llu dyma Arthur a gwŷr Ynys y Cedyrn yn disgyn oddi ar eu meirch is Caer Faddon. Gwelodd yntau [Rhonabwy] ei fod ef ac Iddawg yn mynd i'r un cyfeiriad ac Arthur. Ac wedi iddynt ddisgyn oddi ar eu meirch clywsant gyffro enfawr o'r llu. A'r gŵr a fyddai ar ymyl y llu nawr a fyddai yn ei ganol drachefn. A'r hwn a fyddai yn y canol a derfynai yn yr ymyl. Ac ar hyn, wele marchog yn dyfod a gwisg ddur modrwyol amdano. Ac ar ei farch 'roedd y modrwyon cyn wynned a'r lili gwynaf, a'u rhybedi chyn goched a'r gwaed cochaf. Marchogai ef yng nghanol y llu.

'Iddawg,' meddai Rhonabwy, 'ai ffoi ohonof i a wna y llu?'

'Ni ffodd yr ymerawdwr Arthur erioed, a phe glywai ganddot yr ymadroddiad yma; gŵr celain a fyddi. Ond, y marchog a weli acw, Cei yw hwnnw, a'r tecaf dyn a farchogai yn llys Arthur yw Cei.A'r gwŵr ar ymyl y llu sydd yn brysio yn ôl i weld Cei yn marchogaeth, a'r gwŷ yn y canol sydd yn ffoi i'r ymyl rhag cael eu niweidi gan y march. A dyma'r rheswm dros y cynnwrf yn y llu.'

Ar hynny clywsant alwad am Gadwr, iarll Cernyw. Wele, yntau a gododd â chleddyf Arthur yn ei law. A delwedd dau sarff mewn aur ar y gledd. A phan dynnwyd y gleddyf o'i wein ymddengys fod dwy fflam o dân i'w gweld yn neidio o enau'r sarffod. A mor rhyfeddol oedd y cleddyf fel na allai neb edrych arno'n hawdd. Ar hyn, wele'r llu yn arafu a'r cynnwrf yn peidio. A dychwelodd yr iarll i'r babell.

'Iddawg,' medd Rhonabwy, 'pwy oedd y gŵr a ddygodd y cleddyf i Arthur?'

'Cadwr, iarll Cernyw, gŵr a ddylai ymwisgo'r brenin ag arfau ar ddydd brwydr ac ymladd.'

Ac ar hyn clywsant yr alwad am Eiryn Wych Amheibyn, gwas Arthur, gŵr garw-goch pigog, â mwstas goch iddo a blew garw arno. Wele yntau yn dyfod ar farch goch mawr a'i fwng wedi ei rannu o bopty ei wddf a phwn mawr hardd ganddo. A disgyn oddi ar ei farch o flaen Arthur a wnaeth y gwas mawr coch a thynnu cadair aur o'r pwn ynghyd a llen brocêd o sidan ac edafedd gyfrodedd. Taenodd y llen rhag bron Arthur, ac 'roedd cnap eurgoch ar bob congl ohoni. Gosododd y gadair ar y llen a chymaint oedd ei faint fel y gallai tri milwr arfog eistedd arni.

Gwenn oedd enw y llen ac un o gyneddfau'r llen oedd — ni welai neb unrhyw ddyn a ddodai ei hun o fewn ei ffiniau ac eto fe welai ef bawb. Ac ni arhosai unrhyw liw arni fyth sef ei lliw ei hunan. Ac eistedd ar y llen wnaeth Arthur, gyda Owein fab Urien yn sefyll o'i flaen.

'Owein,' medd Arthur, 'a wnei chwarae gwyddbwyll?'

'Chwaraeaf, arglwydd,' meddai Owein.

Daeth y gwas coch a'r bwrdd gwyddbwyll i Arthur ac Owein, dynion aur ar glawr arian. A dechrau chwarae a wnaethant.

A phan yr oeddynt wedi eu llwydd-feddiannu yn y gwyddbwyll, wele, gwelsant, yn ymddangos o babell gwyn penngoch a delw sarff ar ben y babell a llygaid fflamgoch gwenwynig ym mhen y sarff, a'i dafod yn fflamgoch, macwy ifanc gwallt cyrliog melyn a llygaid gleision a'i farf yn dechrau tyfu, yn dyfod, a chât a swrcot o frocêd melyn amdano, a dwy hosan o frethyn gwyrdd-felyn tenau am ei draed. Ac am ben yr hosanau dwy esgid uchel o ledr Cordofaidd brith a byclau o aur am ei fyngau i'w cau A chleddyf eurddwrn trwm tri-rhigol a gwain o ledr Cordofaidd du iddo a swch eurgoch cain ar ben y wein. Ef a ddoi tua'r lle yr oedd yr ymerawdwr ac Owein yn chwarae gwyddbwyll. A chyfarch Owein yn barchus a wnaeth y macwy. A rhyfeddu wnaeth Owein i'r macwy ei gyfarch ym mharchus heb iddo gyfarch yr ymerawdwr hefyd. A gwybod wnaeth Arthur mai dyma a ddyfalodd Owein a dywedodd wrtho:

'Nid wyf yn rhyfeddu i'r macwy dy gyfarch ym mharchus yr awr hon. Ef a'm cyfarchodd innau gynnau, ac i thi mae ei neges ef.'

Ac yna dywedodd y macwy wrth Owein: 'Arglwydd, ai o'th genadwri di mae gweision bychan yr ymerawdwr a'i facwyon yn ymryson ac yn aflonyddu a blino dy frain? A dim ond o'th gennad wnaiff yr ymerawdwr eu gwahardd.'

'Arglwydd,' medd Owein, 'ti a glyw beth ddywed y macwy. Os da gennyt, gwahardd hwynt oddi-wrth fy mranos.'

'Chwarae dy gêm,' medd ef. Ac yna dychwelodd y macwy tua'i babell.

Gorffen y gêm hwnnw a wnaethant a chychwyn un arall. A phan oeddent hanner ffordd drwy'r chwarae dyma was ifanc gruddgoch gwallt cyrliog gwineugoch llygadfawr tal a chanddo farf eilliedig yn dod o babell pur-felyn. A delw llew pur-goch oedd ar ben y babell. A chôt frocêd melyn amdano a ddisgynnai hyd ei ffêr, a hwnnw wedi ei frodio ag edafedd o sidan coch. A dwy hosan o fwcram gwyn tenau am ei draed. Ac am ben yr hosanau 'roedd dwy esgid uchel o ledr Cordofaidd am ei draed a byclau euraidd arnynt. Yn ei law 'roedd cleddyf mawr trwm tri-rhigol a gwain o groen carw coch iddo a swch euraidd ar y wein. Daeth tua'r lle yr oedd Arthur ac Owein yn chwarae gwyddbwyll ac fei' gyfarchodd yn barchus. Ond drwgdybus oedd Owein o'i gyfarchiad, er na faliodd Arthur fwy arno na chynt.

Y macwy a ddywedodd wrth Owein: 'Ai o'th anwybodaeth di mae macwyaid yr ymerawdwr yn niweidio dy frain — yn lladd rhai ac yn blino eraill. Ac os oes hanfod gennyt gwahodd iddo eu gwahardd.

'Arglwydd,' medd Owein, 'os yn dda gennyt, gwahardd dy wŷr.'

'Chwaraea'r gêm,' medd yr ymerawdwr. Ac yna y dychwelodd y macwy tua'i babell.

Terfynasant y gêm hwn a chychwyn un arall. Ac fel yr oeddynt yn dechrau'r symudiad cyntaf y gêm ysbail i ffwrdd gwelsant y babell brychfelyn mwyaf a welsai neb erioed, a delw eryr o aur arno a charreg gwerthfawr ar ben yr eryr. Yn dod o'r babell gwelsant facwy a gwallt gloyw melyn ar ei ben, yn deg a gosgeiddig, a llen o sidan glas amdano. Ac 'roedd tlws aur ar y llen ar ei ysgwydd dde a hwnnw cyn frased a bys canol milwr. A dwy hosan am ei draed o frethyn Totness tenau a dwy esgid o ledr Cordofaidd brith am ei draed â byclau aur arnynt. 'Roedd y gwas yn foneddigaidd ei wedd, a gwyneb teg gruddgoch ganddo a llygaid mawr hebogaidd. Yn llaw y macwy 'roedd paladr bras melynfrith a phen newydd ei hogi arno. Ac ar y baladr 'roedd lluman amlwg. Dyfod a wnaeth y macwy yn llidiog angerddol, ac yntau ar drot cyflym, tua'r lle yr oedd Arthur yn chwarae gydag Owein uwchlaw y bwrdd gwyddbwyll. Ac adnabod a wnaethant ei fod yn llidiog.

Ar hyn cyfarch Owein yn barchus a wnaeth a dywed wrtho fod y gorau ymhlith ei frain wedi eu lladd, 'a'r rhai ohonynt na laddwyd, hwy a'u niweidiwyd ac a'u brifwyd cyn gymaint na ddisgwyliwyd i'r un ohonynt ddefnyddio eu hadenyd i ddringo hyd un gŵr oddi ar y ddaear.'

'Arglwydd,' medd Owein, 'gwahardd dy wŷr.'

'Chwaraea,' medd ef, 'os y mynni.'

Ac yna dywedodd Owein wrth y macwy: 'Dos ymaith ac yn y lle y gweli'r brwydro caletaf dyrchafa y lluman i fyny. Ac os mynna duw, fe fydd darfu.'

Ac yna y cerddodd y macwy ymaith hyd y lle yr oedd yr ymladd yn galetaf ar y brain ac yno y dyrchafodd ei luman. Ac fel y'i dyrchafodd cyfodasant hwy [y brain] yn llidiog angerddol i'r awyr a gorfoleddasant i ollwng gwynt drwy eu hadenydd ac i fwrw y blinder oddi arnynt. Ac wedi adfer eu angerdd a'u dewrder yng nghodiad ysbryd llidiog gostyngasant i lawr ynghyd ar ben y gwŷ a roes llid a phoen a cholled iddynt yng nghynt. Cymerasant bennau rhai, llygaid eraill, clustiau eraill a breichiau eraill. A'u codi i'r awyr a wnaethant. A chynnwrf mawr fu yn yr awyr oherwydd cyffro adenydd y brain a'u crawcian gorfoleddus, a chynnwrf mawr arall o ddolef y gwŷr yn eu rhwygo a'u hanafu ac yn lladd eraill. A chymaint o ryfeddod oedd hyn gan Arthur ac Owein pan glywsant y cynnwrf uwch y bwrdd gwyddbwyll.

Clywsant farchog yn dyfod a phan edrychasant fe welsant farchog ar farch frychlwyd yn dyfod tuag atynt. Lliw rhyfeddol a oedd ar ei farch, yn frychlwyd a'i fraich dde yn burgoch ac o ben ei goesau hyd mynwes ei garn 'roedd yn felyn pûr. Roedd y marchog a'i farch wedi ei drefnu ag arfau trymion estronol, a mantell y march o'i gynheiliad i fyny o ddefnydd sidanol main purgoch a melyn pur ar yr ochr isaf. Ar glun y gwas 'roedd cleddyf eurddwrn mawr un-finiog a gwain purlas newydd iddo, a swch ar y wein o fetel melyn pres Sbaenaidd. 'Roedd gwregys y cleddyf o ledr Cordofaidd Gwyddelig du a thrawstiau ochrol goreuraidd arno, a bwcl o ifori gyda thafod purddu arno. Am ben y marchog 'roedd penwisg euraidd a cherrig gwerthfawr o gyfoeth mawr ynddi. Ac ar ben y benwisg dwy lewpart melyngoch a dwy garreg rhuddgoch yn eu pennau, fel yr oedd yn rhyfedd i filwr, dim ots mor gadarned ei galon, edrych ar wyneb y llewpart, chwaethach wyneb y milwr. Yn ei law 'roedd gwaywffon paladrlas hirdrwm ac o safle ei ddwrn i ben y baladr 'roedd yn sgarlad â gwaed y brain a'u plu. Dyfod tua'r lle yr oedd Arthur ac Owein uwchlaw eu gwyddbwyll a wnaeth y marchog. A sylwi a wnaethant fod yr hwn a ddoeth atynt yn llidiog-flflîn a lluddedig. Y macwy a gyfarchodd Arthur yn barchus a dywedodd fod brain Owein yn lladd ei weision bychain a'i facwyon. Ac edrych ar Owein a wnaeth Arthur a dywedyd:

'Gwahardd dy frain.'

'Arglwydd,' medd Owein, 'chwarae dy gêm.'

A chwarae a wnaethant. Dychwelodd y marchog i'r frwydr drachefn ac ni waharddwyd y brain fwy na chynt.'

A phan yr oeddynt wedi chwarae am ennyd clywsant gynnwrf mawr; crochlefain gwŷr a chrawcian brain yn defnyddio eu grym i ddwyn y gwŷr i'r awyr ac yn eu llarpio rhyngddynt cyn ei gollwng i ddryllio ar y llawr. Ac yng nghanol y cynnwrf gwelsant farchog yn dyfod ar farch can-welw a braich chwith yn burddu hyd mynwes ei garn. 'Roedd y marchog a'i wei eu drefnu ag arfau trwm glasddur, amdano 'roedd mantell o frocêd wedi ei frodio ac edau gyfrodedd ac ymylon y fantell yn las. 'Roedd mantell y march yn ddu pûr a'i ymylon yn burfelyn. Ar glun y macwy yr oedd cleddyf hirddwrn tair-rhych a gwain o ledr coch patrwmedig a'i wregys o ledr carw newyddgoch â chynifer o drawstiau aur arno, a bwcl o asgwrn morfil arno gyda thafod purddu. Am ben y marchog 'roedd penwisg euraidd a charreg saffir rhinweddol ynddo. Ac ar ben y penwisg 'roedd delw llew melyngoch a'i dafod fflamgoch yn ymestyn dros droedfedd o'i flaen, a llygaid rhuddgoch gwenwynig yn ei ben. Daeth y marchog a phaladr onnen trwchus yn ei law a phen newydd ei waedluddo arno, a rhybedau arian ynddo. A chyfarch yr ymerawdwr yn barchus wnaeth y macwy.

'Arglwydd,' medd ef, 'a wnei ddarfod lladd dy facwyon a'th weision bychain a meibion uchelwyr Ynys Prydain, neu ni fydd yn hawdd cynnal yr ynys hon fyth o heddiw allan.'

'Owein,' medd Arthur, 'gwahardd dy frain.'

'Chwarae, arglwydd,' medd Owein, 'y gêm hwn.'

Darfod y gêm hwn a wnaethant, a dechrau un arall. A phan oeddynt ar ddiwedd y gêm hwnnw, wele, y clywsant gynnwrf mawr a chrochlefain gwŷr arfog a chrawcian brain ac ysgwyd adennydd yn yr awyr fel y gollyngai'r adar yr arfau yn gyflawn a'r gwŷr a'u meirch yn ddarnau i'r llawr. Ac yna fe welsant farchog oedd ar farch carnddu pen-uchel ac 'roedd pen coes chwith y march yn burgoch a'i fraich dde hyd mynwes ei garn yn wyn pur. 'Roedd y marchog a'i farch yn arfog gydag arfau brithfelyn wedi eu britho â a phres Sbaenaidd. Ac 'roedd mantell arno yntau a'i farch a hwnnw o ddau hanner — hanner gwyn a hanner du ac ymylon y fantell o borffor euraidd. Ac uwchlaw ei fantell 'roedd cleddyf eurddwrn gloyw tri-rhicyll a gwregys iddo o eurllin melyn, a bwcl arno o amrant morfil purddu â thafod o aur melyn ar y bwcl. Am ben y marchog 'roedd penwisg o bres melyn a chrisial gloyw ynddo. Ac ar ben y penwisg aderyn griffwn a charreg rhinweddol yn ei ben. Yn ei law 'roedd paladr paladrgrwn a hwnnw wedi ei liwio ac asur glas. 'Roedd pen y baladr yn orchuddiedig ac arian coeth a hwnnw newydd ei waedu. A dyfod yn llidiog wnaeth y marchog marchog i'r lle yr oedd Arthur a dweud wrtho i atal y brain rhag lladd ei deulu a meibion uchelwyr yr ynys, ac erfyn arno i beri i Owein wahardd ei frain. Yna erfyniodd Arthur ar Owein i wahardd ei frain. Ac yna gwasgodd Arthur y werin aur oedd ar y clawr [gwyddbwyll] nes oeddynt oll yn llwch ac fe orchmynnodd Owein i Wers fab Rheged ostwng ei faner. Gostyngwyd hwn a disgynnodd tangnefedd ar bob peth.

Yna gofynnodd Rhonabwy i Iddawg pwy oedd y tri gŵr cyntaf a ddaeth at Owein i ddweud wrtho fod ei frain yn cael eu lladd.

A dywedodd Iddawg: 'Gwŷr a oedd yn ddrwg ganddynt fod Owein yn cael colled, cyd-penteuluau a chydymdeithion iddo; Selfy fab Cynan Garwyn o Bowys, Gwgawn Gleddyfrud, a Gwres fab Rheged, y gŵr a arweiniaf y faner ar ddydd brwydr ac ymladd.

'Pwy,' gofynnodd Rhonabwy, 'oedd y tri gŵr diwethaf a ddaethant at Arthur i ddweud wrtho fod y brain yn lladd ei wŷr.'

'Y gwyr gorau,' medd Iddawg, 'a dewraf, a hagraf ganddynt o unrhyw golled i Arthur; Blathaon fab Mwrheth a Rhufawn Bebyr fab Deothach Wledig a Hyfeidd Unllen.'

Ac ar hyn, wele, pedwar marchog ar ugain yn dyfod o Ossa Gyllellfawr i ymbil heddwch gan Arthur am chwe wythnos. A cyfododd Arthur a myned i ymgynghori. Sef yr aeth tua'r lle yr oedd gŵr mawr gyda gwallt cyrliog gwineugoch ysbaid i oddi wrtho ac yno y dygwyd ei gynghorwyd iddo.

Yr esgob Bedwin, a Gwarthegyd fab Caw, a March fab Meirchion, a Charadog Feichfras, a Gwalchmei fab Gwyar ac Edyrn fab Nudd a Rhufawn Bebyr fan Deorthach Wledig a Rhiogan fab brenin Iwerddon a Gwenwynwyn fab Naf, Howel fab Emyr Llydaw, Gwilim fab rhwyf Ffrainc a Daned mab Oth a Goreu [fab] Custennin a Mabon fab Modron a Pheredur Paladr Hir a Hefeidd Unllen a Thwrch mab Perif, Nerth mab Cadarn a Gobrwy mab Gwestel ac Adwy fab Gereint, Drystan mab Tallwch, Morien Manawg, Granwen fab Llŷr a Llacheu mab Arthur a Llawfrodedd farfog a Chadwr Iarll Cernyw, Morfran eil Tegid a Rhiawd eil Morgant a Dyfyr fab Alun Dyfed, Gwryr Gwalsdod Ieithoedd, Addaon mab Telesyn a Llara fab Casnar Wledig a Ffleuddwr Fflam a Greidial Gallddofyd, Gilbert mab Cadgyffro, Menw mab Teirgwaedd, Gyrthmwl Wledig, Cawrdaf fab Caradawg Feichfras, Gildas mab Caw, Cadrieith mab Seidi a llawer o wŷr Llychlyn a Denmarc a llawer o wŷr Groeg gyda hwy. A digon o lu a ddaeth i'r cyngor hwnnw.

'Iddawg,' medd Rhonabwy, 'pwy oedd y gŵr gwineugoch y daethant ato ynghynt?'

'Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr y mae o fraint iddo fynd i bob ymgynghoriad.'

'O ba achos y dygwyd gwas cyn ieuengaf a Cadyrieith mab Saidi i gyngor gwŷr mor urddasol a'r rhai acw?'

'Gan nag oes ym Mhrydain gŵr mwy gwych ei gyngor nac ef.'

Ac ar hynny, wele, feirdd yn dyfod i ddatganu cerdd i Arthur. Ac nid oedd dyn a deallai'r gerdd honno namyn Cadyriaeth ei hun, eithr eu bod o foliant i Arthur. Ac ar hynny, wele, pedair asyn ar ugain, yn dyfod, a'u pynnau yn llawn o aur ac arian a gŷr llidiog blinedig gyda phob un ohonynt yn dwyn teyrnged i Arthur o wlad Groeg. Yna ymgeisiodd Cadyrieith mab Seidi roddi cadoediad i Osla Gyllellfawr am chwe wythnos a rhoddid yr asynau a ddaeth a'r teyrnged a'r hyn oedd arnynt i'r beirdd yn lle gwobr ymaros, ac i dalu am eu am eu cân drwy hyd y cadoediad. Ac ar hyn fe gytunwyd.

'Rhonabwy,' medd Iddawg, 'oni cam fyddai gwahardd i'r gwas ifanc a roddai gyngor cyn gystal a hwn fynd i ymgynghori a'r arglwydd?'

Ac yna y cyfododd Cei a dywedodd: 'Pwy bynnag a fynno ganlyn Arthur, bydd heno yng Nghernyw gydag ef. A'r hwn na fynnai byddo yn erbyn Arthur hyd yn oed yn amser y cadoediad.'

A chymaint oedd maint y cynnwrf hwnnw fel mai deffro a wnaeth Rhonabwy. A phan y deffrôdd yr oedd ar groen y llo unblwydd melyn ac wedi gysgu am dair noson a thri dydd.

A'r stori hon a elwir: Breuddwyd Rhonabwy.

(A dyma'r rheswm na ŵyr neb y breuddwyd, nid bardd na chyfarwydd heb lyfr, oherwydd y gwahanol liwiau oedd ar y meirch, a hynny o'r aml liw odidog ac ar yr arfau a'u cywirdebau ac ar y llannau gwerthfawr a'r cerrig rhinweddol.)

SOURCE
Text translated into modern Welsh by Dyfed Lloyd Evans Original at CeltNet.org. Reprinted with his permission.

Copyright 2005, Dyfed Lloyd Evans