The Celtic Literature Collective

Angar Kyfyndawt
Llyfr Taliesin VII

Bard yman ymae neu cheint aganho.
Kanet pan darffo.
Sywedydyn yt uo.
Haelon am nacco.
Nys deubi arotho.
Trwy ieith taliessin.
Bu dyd emellin.
Kian pan darfu.
Lliaws y gyfolu.
By lleith bit areith auacdu.
Neus duc y geluyd.
Kyuren argywyd.
Gwiawn a leferyd.
A dwfyn dyfyd.
Gwnaei o varw vyw.
Ac aghyfoeth yw.
Gwneynt eu delideu.
yn oes oesseu.
Dydwyth dydyccawt
O dyfynwedyd gwawt.
Neut angar kyfyndawt.
Pwy ychynefawt.
Kymeint kerd kiwdawt
A delis awch tafawt.
Pyr na threthwch traethawt.
Llat uch llyn llathrawt.
Penillyach pawb
Dybydaf yna gnawt.
Dwfyn dyfu ygnawt.
Neur dodyw ystygnawt.
Trydyd par ygnat.
Trvgein mlyned
Yt portheisilawrwed.
Yn dyfyr kaw a chiwed.
Yn eluyd tired.
Kanweis am dioed.
Kant rihyd odynoed.
Kan yw yd aethant.
Kan yw y doethant.
Kan eilewyd y gant.
Ac ef ae darogant.
Lladon verch liant.
Oed bychan ychwant
Y eur ac aryant.
Pwyr byw ae diadas
Gwaet yar wynwas
Odit traethator
Mawr molhator.
Mitwyf taliessin.
Ry phrydaf y iawn llin
Parawt hyt ffin
Ygkynelw elphin.
Neur deiryg het
O rif eur dylyet.
Pan gassat ny charat.
Anudon a brat.
Nu ny chwennych vat
Trwy gogyuec an gwawt.
A gogyfarchwy brawt wrthyf ny gwybyd nebawt.
Doethur prif geluyd.
Dispwyllawt sywedyd.
Am wyth am edrywth
Am doleu dynwedyd.
Am gwyr gwawt geluyd.
Kerdwn duw yssyd
Trwy ieith talhayarn.
Bedyd bu dyd varn.
A varnwys teithi
Angerd vardoni.
Ef ae rin rodes
Awen aghymes.
Seith vgein ogyruen
Yssyd yn awen.
Wyth vgein o pop vgein e nyd yn vn.
Yn annwfyn y diwyth.
Yn annwfyn y gorwyth.
Yn annwfyn is eluyd.
Y mae ae gwybyd.
Py tristit yssyd
Gwell no llewenyd.
Gogwn dedyf radeu.
Awen pan deffreu.
Am geluyd taleu.
Am detwyd dieu.
am buched ara.
Am oesseu yscorua.
Am haual teyrned. py hyt eu kygwars.
Am gyhaual ydynt trwy weryt.
Mawrhydic. sywyd pan dygfrensit
Awel uchel gyt.
Pan vyd gohoyw bryt
Pan vyd mor hyfryt.
Pan yw gwrd echen.
Pan echrewyt uchel.
Neu heul pan dodir.
Pan yw toi tir.
Toi tir pwy meint.
Pan tynhit gwytheint.
Gwytheint pan tynnit.
Pan yw gwyrd gweryt.
Gweryt pan yw gwyrd.
Pwy echenis kyrd.
Kyrd pwy echenis.
Ystir pwy ystyrywys.
Ystyrywyt yn llyfreu
Pet wynt pet ffreu.
Pet ffreu pet wynt.
Pet auon ar hynt.
Pet auon yd ynt.
Dayar pwy y llet.
Neu pwy y thewhet.
Gogwn trws llafnawr
Am rud am lawr.
Gogwn atrefnawr
Rwg nef a llawr
Pan atsein aduant.
Pan ergyr diuant.
Pan lewych aryant.
Pan vyd tywyll nant.
Anadyl pan yw du.
Pan yw ren a uu.
Buch pan yw bannawc.
Gwreic pan yw serchawc.
Llaeth pan yw gwyn.
Pan yw glas kelyn.
Pan yw baruawt myn.
Yn lliaws mehyn.
Pan yw baruawt.
Pan yw keu efwr.
Pan yw medw colwyn.
Pan yw lledyf ordwyn.
Pan yw brith iyrchwyn.
pan yw hallt halwyn
Cwfwf pan yw ystern.
Pan yw lletrud gwern.
Pan yw gwyrd llinos.
Pan yw rud egroes.
Neu wreic ae dioes.
Pan dygynnu nos. 
Py datweir yssyd yn eur lliant.
Ny wyr neb pan rudir y bron huan.
Lliw yn erkynan newyd
Anahawr ydwyn.
Tant teyn py gwyn.
Coc py gwyn py gan.
Py geidw y didan.
Py dydwc garthan
Gereint ac arman.
Py dydwc glein.
O erddygnawt vein
Pan yw per erwein.
Pan yw gwyrliw brein.
Talhayarn yssyd
Mwyhaf y sywedyd.
Pwy amgyfrawd gwyd
O aches amot dyd.
Gogwn da a drwc
Cwda. cwd amewenir mwc
Mawr meint gogyhwc.
Dawc pwy ae dylifas.
Pwy gwawr gorffennas.
Pwy agregethas.
Eli ac eneas.
Gogwn gogeu haf.
A uydant y gayaf.
Awen aganaf.
O dwfyn ys dygaf.
Auon kyt beryt.
Gogwn y gwrhyt.
Gogwn pan dyueiw.
Gogwn pan dyleinw.
Gogwn pan dillyd.
Gogwn pan wescryd.
Gogwn py pegor
Yssyd y dan vor.
Gogwn eu heissor
Pawb yny oscord.
Pet gygloyt yn dyd
Pet dyd ymblwydyn.
Pet paladyr ygkat.
Pet dos ygkawat.
Atuwyn y tannawt.
Gwawt nwy mefyl gogyffrawt
Aches gvyd gwydyon.
Gogwn i nebawt
Py lenwis auon
Ar pobyl pharaon.
Py dydwc rwynnon
Baran achwysson.
Py yscawl odef
Pan drychafafwyt nef.
Pwy uu fforch hwyl
O dayar hyt awyr.
Pet byssed am peir
Am vn am nedeir
Pwy enw y deueir.
Ny eing yn vn peir.
Pan yw mor meddwhawt.
Pan yw du pyscawt.
Moruwyt uyd eu cnawt.
Hyd pan ywmedysc.
Pan yw gannawc pysc.
Pan yw du troet alarch gwyn.
Pedrydawc gwaew llym.
Llwyth nef nyt ystyg.
Py pedeir tywarchen.
Ny wys eu gorffen.
Py voch neu py grwydyr hyd.
Ath gyfarchaf vargat vard.
Gwryth gynnyd escyrn nywl.
Gwdynt deu rayadyr gwynt.
Traethattor vygofec.
Yn efrei yn efroec.
Yn efroec yn efrei.
Laudatu Laudate Jessu.
Eil gweith ym rithat.
Bum glas gleissat.
Bum ki bum hyd.
Bum iwrch ymynyd.
Bum kyff bum raw
Bum bwell yn llaw.
Bum ebill yggefel
Blwydyn ahanher.
Bum keilyawc brithwyn
Ar ieir yn eidin.
Bum amws ar re.
Bum tarw toste.
Bum bwch melinawr.
Mal ymaethawr.
Bum gronyn erkennis.
Ef tyfwys ymryn.
A mettawr am dottawr.
Yn sawell ymgyrrawr.
Ymrygiawr o law.
Wrth vyg godeidaw.
Am haruolles yar.
Grafrud grib escar.
Gorffowysseis naw nos
Yny chroth yn was.
Bum Aeduedic
Bum llat rac gwledic.
Bum marw bum byw.
Keig ydym ediw
Bum y arwad awt.
Y rac daw bum tawt
Am eil kyghores gres
Grafrud am rodes.
Odit traethattor
Mawr molhator.
Mitwyf taliesin
Ryphrydaf iawnllin.
Parahawt hyt ffin.
Ygkynnelw elphin.