The Celtic Literature Collective

Ryfedaf na chiawr
Llyfr Taliesin XXVIII

Ryfedaf na chiawr
Adef nef y lawr
O dyfot rwyf gawr
Alexander mawr.
Hewys hayarndawn
Cledyfal anwogawn.
Aeth dan eigyawn.
Dan eigawn eithyd
Y geisiaw keuydyt.
A geisso keluydyt
Bit o iewin y vryt.
Eithyd oduch gwynt.
Rwg deu grifft ar hunt
Y welet dremynt.
Dremynt aweles
Pressent ny chymes.
Gweles ryfedawt.
Gorllin gan pyscawt.
Aeidunwys y ny vryt.
A gafas or byt.
A heuyt oe diwed
Gan duw trugared.