The Celtic Literature Collective

Preiddeu Annwn
Llyfyr Taliesin XXX

Golychaf wledic pendeuic gwlat ri.
py ledas y pennaeth dros traeth mundi.
bu kyweir karchar gweir yg kaer sidi.
trwy ebostol pwyll a phryderi.
Neb kyn noc ef nyt aeth idi.
yr gadwyn trom las kywirwas ae ketwi.
A rac preidu annwfyn tost yt geni.
Ac yt urawt parahawt yn bardwedi.
Tri lloneit prytwen yd aetham ni idi.
nam seith ny dyrreith o gaer sidi. 

Neut wyf glot geinmyn cerd ochlywir.
yg kaer pedryuan pedyr ychwelyt.
yg kynneir or peir pan leferit.
O anadyl naw morwyn gochyneuit.
Neu peir pen annwfyn pwy y vynut.
gwrym am y oror a mererit.
ny beirw bwyt llwfyr ny ry tyghit.
cledyf lluch lleawc idaw rydyrchit.
Ac yn llaw leminawc yd edewit.
A rac drws porth vffern llugyrn lloscit.
A phan aetham ni gan arthur trafferth lethrit.
nam seith ny dyrreith o gaer vedwit. 

Neut wyf glot geinmyn kerd glywanawr.
yg kaer pedryfan ynys pybyrdor
echwyd a muchyd kymyscetor
gwin gloyw eu gwirawt rac eu gorgord.
Tri lloneit prytwen yd aetham ni ar vor.
nam seith ny dyrreith o gaer rigor. 

Ny obrynafi lawyr llen llywyadur
tra chaer wydyr ny welsynt wrhyt arthur.
Tri vgeint canhwr a seui ar y mur.
oed anhawd ymadrawd ae gwylyadur.
tri lloneit prytwen yd aeth gan arthur.
nam seith ny dyrreith o gaer golud. 

Ny obrynaf y lawyr llaes eu kylchwy
ny wdant wy py·dyd peridyd pwy.
py awr ymeindyd y ganet cwy.
Pwy gwnaeth ar nyt aeth doleu defwy.
ny wdant wy yr ych brych bras y penrwy.
seith vgein kygwng yny aerwy.
A phan aetham ni gan arthur auyrdwl gofwy.
nam seith ny dyrreith o gaer vandwy. 

Ny obrynafy lawyr llaes eu gohen.
ny wdant py dyd peridyd pen.
Py awr ymeindyd y ganet perchen.
Py vil a gatwant aryant y pen.
Pan aetham ni gan arthur afyrdwl gynhen.
nam seith ny dyrreith o gaer ochren. 

Myneich dychnut val cunin cor.
gyfranc udyd ae gwidanhor.
Ae vn hynt gwynt ae vn dwfyr mor.
Ae vn vfel tan twrwf diachor. 
Myneych dychnut val bleidawr.
o gyfranc udyd ae gwidyanhawr
ny wdant pan yscar deweint a gwawr.
neu wynt pwy hynt pwy y rynnawd.
py va diua py tir a plawd.
bet sant yn·diuant a bet allawr.
Golychaf y wledic penefic mawr.
na bwyf trist crist am gwadawl.