The Celtic Literature Collective

Ystori Trystan y modd ir aeth ag Esyllt gwraig March y Mheirchion
Cardiff MS 43

Yn y cyfamser yr aeth Trystan ap Tallwch ag Esyllt, gwraig March y Meirchion, ar herw i goed Clyddon, a Golwg Hafddydd yn llaw forwyn gyda hi a’r Bâch Bychan yn bayts gidag ynte, yn dwyn pasteiod a gwîn gyda hwynt, a gwelu o ddail a wnaethpwyd yddunt. Ag yna yr aeth March y Mheirchion i gwynaw at Arthur rhag Trystan ag i dolwyn iddo ddial i sarhad ar Drystan o herwydd i fod ef yn nęs o garen̄ydd iddaw nag oedd Trystan, o achos fod March y Mheirchion yn gefnder i Arthur ag nad oedd Trystan ond nai fab cyfnither i Arthur. “Mi âf mi a’m teylu,” ebr Arthur, “i geisio naill ai jawn ai gwâditi.” Ag yna ir aethant yn ghylch coed Celyddon.

Cynedd[fau] oedd ar Drwstan: pwy bynag a dynai waed ar Drwstan marw fyddau; pwy bynag y tynau Dristan î waed marw a fyddae hwnw. A phen glowes Esyllt siarad o amgylch y coed, y crynnodd hi rhag dwylo Trystan. Ag yno y gofynnodd Trystan iddi paham y cryuasau; ag y dowad hithau mae rhag ofn am dano fô. Ag y canodd Trystan ‘r engln hwn:

“Esylit wen̄, na fydd ofnog;
Tra fwyb i’th erchwynog,
Nith ddŵg trais trychan marchog,
Na thrychanwr llirugog.”

Ag yno y cyfodes Trystan i fynu ag a gym̄erth ar ffrwst i gledde yn i law ag i kyrchodd y gâd yn gynta ag y gallodd oni chyfarfv a March y Mheirchion. Ag yna y dwad March y Meirchion: “Mi a’m [l]ladda fify hun, i ladd fô.” Ag yna y dowad y gwyr eraill oll: “Mefi i ninau od ymyrrwn arno fo.” Ag yna yr aeth Trystan trwy y tair cad yn ddiargywedd.

A Chau Hîr oedd. yn caru Golwg Hafddydd. Sef a wnaeth yntav, dowod lle yr oedd Esyllt a chanu yr englyn hwn:

“Esyllt wen, serchog wylan,
ys dyweyd ar ymddiddan;
ef a ddiengis Trystan.”

Esylld:

“Cai wyn, os gwîr a ddyweidi
wrth ymddiddan a myfî,
gordderch avr yt a geffî.”

Kae Hir:

“Gordderch avr nis dymunaf
am y ddeydes a dyngaf:
Golwg Hafddydd geisiaf.”

Esylld:

“Os gwîr y chwedel gynau
a ddeydest ym o’th enau,
Golwg Hafddydd a fydd tau.”

Yna yr aeth March y Meirchion yr ail waith att Arthur ag ir wylawdd wrthaw am na chae nag jawn na gwad am ei wraig briod. Ag y dowad Arthur, “Nî wnn i gyngor itti ond hyn̄: danfon gwyr o gerdd dallau i leisiaw iddaw o bell, ag yn ol hyny danfon gwyr o gerdd dafod ag englynion moliant.” A hyny a wnaethant. Ach wedi hyny Trystan alwodd y kerddorion atto ag a roddes iddynt ddyrneidie o aur ag arian. Ach wedi hyny y gyrrwyd am dangnefedd attaw, nid amgeu Gwalchmai. Ag y canai Gwalchmai y englyn hwn:

“Abrw[y]sg fydd ton anfeid[r]awl
pan fo’r môr yn i ganawl:
pwy wyt filwr anianol.”

Trystan:

“Abrwysg a fydd ton̄ a tharan
cyd bo brwysg a gwahan:
yn nydd trîn myfi yw Trystan.”

Gwalchmai:

“Trystan gyneddfai difai
ar dy ’madrodd nid oes bai:
cydymeth [yt] oedd Walchmai.”

Trystan:

“Mi nawn er Walchmai nydd
o bai arno [waith kochwydd]
nas gwnai’r brawd er i gilydd.”

Gwalchmai:

“Trystan, bendefig eglyr,
dwys y dyrnod dy lafur:
mi yw Gwlchmai nai Arthur.”

Trystan:

“Yn gynt, Gwalchmai, nag yn rhîn,
o bai arnat waith brwydrin,
mi nawn waed hyd deilin.”

Gwalchmai:

“Trystan gyneddfau talgrwn,
oni gomoddai archgrwn,
mine a nawn gore [i] gallwn.”

Trystan:

“Mi ai gofynaf er caen
nis gofynaf er graen:
Pwy [yw]’r nifer sydd o'r blaen?”

Gwalchmai:

“Trystan gyneddfau hynod,
Nid ydynt i’th adnabod:
teulu Arthur [sydd] y’th ragod.”

Trystan:

“Er Arthur ni fogelaf,
naw can câd a gynhyrfaf;
oni leddir mine a laddaf.”

Gwalch.:

“Trystan [gyfaill] rhianedd,
cyn̄ myned [yngwaith] coch[w]edd,
gorau dim oedd dangnefedd.”

Trystan:

“o chaf fy nghledd ar fy nghlun
a’m llaw ddehau [i’m ddiffyn,]
ai gwaeth i mi nag yddun.”

Gwalchmai:

“Trystan gyneddfau [eglur,]
hyddeil paladr o’th lafur;
na wrthod yn gftr Arthur.”

Trystan:

“Gwalchmai gyneddfau trada
gorwlychod cawad kan tyrfa;
fel im caro i cara.”

Gwalchmai:

“Trystan gyneddfau blaengar,
gorwiychod cawad kan dâr;
tyred i ymddiddan a’th gâr."

Trystan:

“Gwalchmai gyneddfau gwrth[g]rych,
gorwlych cawad kan rhych;
mi af ir lle i mynych.”

Yna yr aeth Trystan gyda Gwalchmai att Arthur, ag y canodd Gwalchmai yr englyn hwn:

“Arthur gyneddfau cymmen,
gorwlychod cawad kan pren;
llyma Drystan, bydd lawen.”

Yna canodd Arthur yr englyn hwn:

“Gwalchmai gyneddfau difai,
ynydd trin nid ymgelai;
croeso wrth Drystan, fy nai.”

Ag nid yngenai Trystan er hyn; ag y canodd Arthur yr ail englyn:

“Trystan wyn, bendefig llu,
car dy genedl gyda thu,
a mine, yn ben teulu.”

Ag nid yngenodd Trystan ddim er hyny; ag y canodd Arthur y 3dydd [englyn:]

“Trystan, bendefig cadau,
cymer cystal a’r gorau,
Ag yn gowir câr finau.”

Ag nid yngenodd Trystan er hyn; ag y canodd Arthur y 4ydd [englyn:]

“Trystan gyneddfau mowrgall,
car dy genedi, nith ddűg gwall,
nid oera rhwng câr a’r all.”

Yna yr attebai Trystan ag y canai yr englyn hwn i Arthur i ewyrth:

“Arthur, o honot y pwyllaf
ag o’th ben̄ y cymhenaf,
ag a fynech mi a’i gwnaf.”

Ag yno y rhodded y dyngnhefedd ar Arthur rhyng Trystan a March y Mheirchion. Ag ymddiddanodd Arthur a hwy ill deuwedd ar gylch; ag ni fynau yr un ohonunt fod heb Esyllt. Ag yno y barnodd Arthur hi i’r naill pen fae y dail ar y coed, ag i’r llal y pryd na bai y dail ar y coed; ag i’r gwr priod gael dewis. Ag a ddewise ynte y pryd na bae’r dail ar y coed, o achos mae hwya fydde’r nos yr amser hwnw. Ag y mynegawdd Arthur i Esyllt hyny; ag i dowad hithe, “Bendigedig fo’r farn a’r neb a’i rhoddodd!” Ag y canal Essyllt yr englyn hwn:

“Tri ffren sy dda i rryw:
kelyn ag eiddew ag yw,
a ddeilia’u [ddail] yn i byw;
Trystan pie fi yni fyw!”

Ag yn y modd hwnw y colles March y Mheirchion i wraig yn dragowydd. Ag felly y terfyna.

SOURCE
Cross, Thomas P. "A Welsh Trystan Episode." Studies in Philology. Vol. 17 (1912)