The Celtic Literature Coỻective

Gaglaỽc bydin bagỽy onn hwyeit yn
Jes. MS 111 (Llyfr Coch Hergest)
col. 1032

Baglaỽc bydin bagỽy onn hwyeit yn
ỻyn graenwynn tonn; trech no
chant kyssul caỻon.
Hir nos gordyar morua. gnaỽt teruysc yg-
kymanua: nyc hyt uyd diryeit a da,
Hir nos gordyar mynyd, gochwiban gỽynt
yỽch blaengỽyd; ny thỽyỻ dryc anyan detwyd.
Marchwyeil bedỽ briclas. adynn uyntroet
o wanas; nac adef dy rin y was,
Marchwyeil derỽ myỽn ỻỽyn. a dynn vynn
troet o gadwyn; nac adef rin y uorwyn,
Marchwyeil derỽ deilyar. a dynn vyn troet o
garchar; nac adef rin y lauar ~
Marchwyeil dryssi amỽyar erni. a mỽyalch
ar y nyth; achelwydaỽc nytheu vyth,
Glaỽ aỻann gỽlychyt redyn gỽynn gro
mor gogor ewynn; tech agannỽyỻ pỽyỻ y dyn,
Glaỽ aỻan y gan glydỽr melyn eithin crin euỽr,
duỽ reen py bereist lyvỽr,
Glaỽ aỻan gỽlychyt vyggỽaỻt. cỽynuanus
gwan diffỽys aỻt; gỽelỽgan gỽeilgi heli haỻt,
Glaỽ aỻan gỽlychyt eigyaỽn. gochwiban
gỽynt yỽch blaen caỽn: gỽedỽ pobcamp heb y
daỽ.

[1032]

SOURCE:
Poetry from the Red Book of Hergest. ed. by J. Gwenogvryn Evans. Llanbedrog, 1911.


Back to the Red Book of Hergest
Back to Welsh Texts
Back to CLC