The Celtic Literature Collective

March Gwên
Mostyn 131; BM 32 (129)

Ef a ddamweiniodd lladd march Gwên ap Llywarch Hen mewn brwydyr yn [...] a gwedi lladd y march, ef a las Gwe^n: ag yr hir o yspeit gwedi hynny y rroesbwyd pengloc y march yn lle karrec yn sarn dros aber oedd yn emyl y mann y lladdessid y march: ac yn ol hynny y damweiniawdd i Llywarch Hen dramwyaw ar hyd y ffordd honno, ac yno y dyvod gwas i Lywarch wrth i veistr; "Rakw bengloc march Gwên ap Llywarch, ych mab chwi!" Ac yna y kanodd Llywarch yr Englyn hwnn ar y testyn hwnnw:

Mi a welais ddydd i'r march,
Ffriw hydd, tafliedydd towarch,
Na sangai neb ar i ên
Pan oedd dan Wên ap Llowarch.

Llywarch hen a'i kant.

SOURCE
Williams, Ifor. Canu Llywarch Hen. Cardiff: Univeristy of Wales.