The Celtic Literature Collective

Prif Cyfarch
Llyfr Taliesin I

As the manuscript is missing its front and back pages, the poem is incomplete, starting in the middle. The entire poem is found in the Red Book of Hergest.

Gan iewyd gan elestron.
Ry ganhymdeith achwysson.
Blwydyn yg kaer ofanhon.
Wyf hen wyf newyd. wyf gwion.
Wyf llwyr wyf synwyr keinon.
Dy gofi dyhen vrython.
Gwydyl kyl diuerogyon.
Medut medwon.
Wyf bard ny rifafi eillon.
Wyf syw llyw wyf syw amrysson.
Syhei arahei. arahei nys medei.
Si ffradyr yn y fradri.
Pos beirdein bronrein a dyfei.
A deuhont uch medlestri.
A ganhont gam vardoni.
A geissont gyfarws nys deubi.
Heb gyfreith heb reith heb rodi.
A gwedy hynny digoni.
Brithuyt abyt dyuysci.
Nac eruyn ti hedwch nyth vi.
Ren nef rymawyr dy wedi.
rac ygres rym gwares dy voli.
Ri Rex gle am gogyfarch yn geluyd.
A weleisti dñs fortis.
Dargoan dwfyn dñi
Budyant uffern.
Hic nemo in per pgenie.
Ef dillygwys ythwryf dñs uirtutu.
Kaeth nawt kynnullwys estis iste est.
Achyn buasswn asvmsei
Arnaf. bwyf derwyn y duv diheu.
Achyn mynhwyf deryn creu.
Achyn del ewynuriw ar vyggeneu.
Achyn vyg hyfalle ar y llathen preu.
Poet ym heneit ydagyfedeu.
Abreid om dyweit llythyr llyfreu.
Kystud dygyn gwedy gwely agheu.
Ar sawl agigluen vymbardgyfreu.
Ry prynwnt wlat nef adef goreu.