The Celtic Literature Collective

Buarch Beird
Llyfr Taliesin III

Edympeilli oet ympwyllat.
Y veird brython prydest ofer.
Ymryorsseu ymryorsed.
Digawn gofal y gofangord.
Wyf eissygpren kyfyg ar gerd.
Buarth beird ar nys gwypo.
Pymtheg mil drostaw
Yny gymhwyssaw.
Wyf kerdolyat. wyf keinyat claer.
Wyf dur wyf suw.
wyf sarff wyf serch yd ymgestaf.
Nyt wyf vard syn yn aryfreidaw.
Pan gan keinyeit canu ygkof.
Nyt ef wnawfut wy ryfed vchon.
Handit ami eu herbyniaw.
Mal aruoll dillat heb law.
Val ymsawd yn llyn heb naw.
Tyrui aches ehofyn ygrad
Uchel ygwaed mordwyt trefyd.
Creic am wanec. wrth vawr trefnat.
An clut yscrut escar nodyat.
Creic pen perchen pen anygnat.
Yn gwna medut meddawt medyd.
Wyf kell wyf dell wyf datweirllet.
Wyf logell kerd wyf lle ynnyet.
Karaf y gorwyd a goreil clyt.
A bard a bryt ny pryn yret.
Nyt ef caraf amryssonyat.
A geibyl keluyd ny meued med.
Madws mynet yr ymdiot
A cheluydeit am geluydyt.
Achamclwm kystwm kywlat.
Bugeil brooed porthoed neirthyaf.
Mal ymdeith heb troet y gat.
Eri vynnei ymdeith heb troet.
Eri vagi kneuha heb goet.
Mal keissaw bydueid yg gruc.
Mal peireint aureith ynuut.
Mal gosgord lluyd heb pen.
Mal porthi anclut ar ken.
Mal grynniaw tyndei o vro.
Mal haedu awyr a bach.
Mal eirach a gwaet yscall.
Mal gwneuthur goleu y dall
Mal docni dillat ynoeth.
Mal tannu engwyn ar traeth.
Mal prothi pyscawt ar laeth.
Mal toineuad a deil.
Mal lladu llyry a gwyil.
Mal todi dyfet rac geir.
Wyf bard neuad. wyf kyw kadeir.
Digonaf y veird llafar llesteir.
Kyn vy argywrein ym garw gyfloc.
Ryprynhom ni an llocyth tydi vab meir.