The Celtic Literature Collective

Kychwedyl am dodyw o galchuynyd
Llyfr Taliesin XVIII

Kychwedyl am dodyw o galchuynyd.
Gwarth yn deheubarth anreith clotryd.
Da aryd y leu dywaled y vedyd.
Llawn yw y ystrat lawen gynnyd.
Llara llued peblet llara arall vro.
Kat gormes tra trachwres bro.
Odit o gymry ae llafaro.
Dyfet dygyrchet biw mab idno.
Ac ny llefessit neb ny do.
Yr talu can mu yrof vn llo.
Goleith dy yscarant amgant dy vro.
Mal tan twym tarth yn yt vo.
Pan gyrch assam ni trwydet ar tir gwydno.
Oed kelein veinwen rwg grayan a gro.
Pan ymchoeles echwyd o gludwys vro.
Nyt efrefwys buch wrth y llo.
Gogyfarch vabon o arall vro
Kat. pan amuc owein biw y vro.
Kat yn ryt alclut. kat ynygwen.
Kat yg gossulwyt abann udun.
Kat rac rodawys cirwyn drych.
Gwaywawr a du a lleullenyn.
Kat tuman llachar derlyw derlin.
Yscwydawr yn llaw garthan yggryn.
A welei vabon ar ranwen reidawl.
Rac biw reget y kymyscyn.
Ony bei ac adaned yd ehettyn.
Rac mabon heb galaned vy nyt eyn.
O gyfarfot discyn a chychwyn kat.
Gwlat vabon gwehenyt anoleithat.
Ban disgynnwys owein rac biw y tat.
Tardei galch achwyr ac yspydat.
Nyt yscafael y neb dwyn biw moel.
Kyt es clwch rac gwyr rein rudyon.
Rac pedrydan dande
Rac kadarn gyfwyre.
Rac gwyar ar gnawt.
Rac afar ystaenawt.
Kychwedyl am dodyw
O leutired deheu.
Traeth rieu goleu haelon.
Nyth y ogyfeirch o chwynogyon.
Am ryt or am gwern y gatuaon.
Ban berit kat ri rwyf dragon.
Billt na owillt biw rac mabon.
O gyfaruat gwrgun.
Bu kalaned ned rei yn run.
Bu llewenyd dybyd y vrein.
Ban ymadrawd gwyr gwedy nuchien
Kat. nyt ef dieghis yscwyt owein.
Yscwyt uolch wrthyat ygkat trablud.
Ni reei warthec heb wyneb rud.
Rudyon beuder biw a mawr y rat.
Gwyar gorgolchel gwarthyf iat.
Ac ar wyneb gwyn yd yr gaffat.
Eurobell greulet genem dullyat
Preid wenhwys iolin. preid daresteinat.
Preid rac taeruwydyr taer gyffestrawn.
Preid pen gyfylchi, keig ar yscwydawr.
Mawr discreinawr llafnawr am iat.
Kat y rac owein mawr. mawr o irat.
Meindyd kwydynt wy wyr yn amwyn gwlat.
Pan discynnwys owein rac gwenwlat.
Yr echwys gorerefein bud oe tat.