The Celtic Literature Collective

Trawsganu Kynan Garwyn
Llyfr Taliesin XXIII

Kynan kat diffret
kanyt geu gofyget.
kant gorwyd kyfret
Cant llen ehoec
Cant armell ym arffret.
Cledyf gwein karrec
cant kynan kaffat.
katellig ystret.
kat ar wy kyrchet.
Gwenhwys a ladet.
kat ymon mawr tec.
Tra menei mynet
kat yg cruc dymet.
Nac ny rywelet.
Mab brochuael brolet.
kernyw kyfarchet.
Dystwc aghyffret
Myg kynnelw o gynan.
Aeleu fflam lydan.
kat ygwlat brachan.
Tegyrned truan
lluryc yn ymwan.
kyngen kymangan.
kigleu ymdidan.
kylch byt gwochuan. am arllofeis ket.
Gwrthelgwn trefbret.
aryant eu tudet.
o vn o vaen gyffret.
A phympwnt cathet.
dyrngell gwell honeb.
kas anwelet
kat anyscoget.
gwaywawr ebrifet.
A lafyn gwyarlet.
erglyt a molet.
gworwyd a gworgret.
aercol ar gerdet.
y biw rac ffriw neb.
Eidywet eidunet.
ny mawl ieu tyghet.
ynyd am iolet.
kadeu ergynnan.
kwfwyrein mawrtan.
katlan god aran.
crinyt rac kynan.
eissor llyw heechan.
nerthi athwlat lydan.
pawb yny gochvan.
keith ynt gynan.