The Celtic Literature Collective

Arddwyre Reged
Llyfr Taliesin XXXVI

Ardwyre reget ryssed rieu.
neu ti rygosteis kyn bwyf teu.
gnissynt kat lafnawr a chat vereu.
Gnissynt wyr ydan kylch wyawr.
lleeu gowy gwyn gwylein ymathreu
ny mat vrwytrwyt.Ri ny mat geu
yd ymarmerth gwledic gwrth kymryeu.
nys gyrr neges y geissaton
gochawn marchawc mwth molut gwryon.
o dreic adaw doethaw don.
yny doeth vlph yn treis ar y alon.
hyny doeth vryen yn edyd yn aeron.
ny bu kyfergyryat ny bu gynnwys.
Talgynawt vryen yrac powys
ny bu hyfrwt brwt echen gyrrys
hyueid a goodin a lleu towys.
dewr yn enmyned atheith gwyduwys
diueuyl dydwyn ygwaet gwyden
a weles lluyuenyd. Udyd kygryn.
yn eidoed kyhoed yn eil mehyn
kat yn ryt alclut kat ymynuer.
kat gellawr brewyn. kat hir eurur.
kat ymprysc. katleu kat yn aber
ioed ydygyfranc adur breuer
mawr kat glutuein gweith pencoet
llwyth llithyawc cun ar ormant gwaet.
Atueilaw gwyn gouchyr kyt
mynan eigyl edyl gwrthryt.
lletrud a gyfranc ac vlph yn ryt
gwell ganher gwledic pyr yganet
y vd prydein pen perchen broestlawn
y vd. nyt ymduc dillat na glas na gawr
na choch nac ehoec vyc mor llawr.
nyt ardodes y vordwyt dros voel maelawr
veirch o genedyl vrych mor greidawl.
Haf ydan ayaf ac araf llaw.
A ryt a roywyd eu harwylaw.
A gwest ydan geird ac ymdwyraw.
Ac hyt orffen byt edrywyt kaw.
gofydin goyscub. dyhawl am delw
dilewr am leuuereu.
neu vi erthycheis yn eis rac hwyd
peleidyr ar yscwyd. yscwyt yn llaw
godeu a reget yn ymdullyaw.
neu vi a weleis wr yn buarthaw.
sarff soned virein segidyd lawr.
Neu vi gogwn ryfel yd argollawr.
Ar meint a gollwyf y argollawr.
neu vi neu ymgorwyth medu medlyn
gan hyfeid hywr hywst dilyn
neu vi neu yscenhedeis kyscawt gweithen
dithrychwys vy rieu radeu lawen
gwacsa gwlat da. wrth uruwyn.

Ac yny vallwyfy hen
ym dygyn agheu aghen
ny bydif ym dirwen
na molwyf vryen.