The Celtic Literature Collective

Marwnat Madawg
Llyfr Taliesin XLI

Madawc mur menwyt.
Madawc kyn bu bed.
Bu dinas edryssed.
O gamp a chymwed.
Mab vythyr kyn lleas
Oe law dy wystlas.
Dybu erof greulawn.
Llewenyd anwogawn.
Tristyt anwogawn.
A oryw erof greulawn.
Brattau iessu
Ac ef yn credu.
Dayar yn crynu
ac eluyd yn gardu.
A chyscoc ar ybyt
A bedyd ar gryt
Llam anwogawn
A oryw erof creulawn.
Mynet yn y trefyn
Ym plith oer gethern
Hyt yg waelawt vffern.