The Celtic Literature Collective

Marwnat Corroi m. Dayry
Llyfr Taliesin XLII

Dy ffynhawn lydan dylleinw aches.
Dydaw dyhebcyr dy bris dybrys.
Marwnat corroy am kyffroes.
Oer deni gwr garw y anwyteu.
A oed voy y drwc nys mawr gicleu
Mab dayry dalei lyw ar vor deheu
Dathyl oed y glot kyn noe adneu.
Dy ffynhawn lydan delleinw nonneu.
Dydaw dyhebcyr dybrwys dybreu.
Mawrnat corroy genhyfinheu.
Oer deni.
Dy ffynhawn lydan dylleinw dyllyr.
Dy sawth dychyrch traeth diuwg dybyr.
Gwr a werescyn mawr y varanres.
A wedy mynaw mynet trefyd.
A --ant wy ffres ffra wynyonyd.
Tra uu uudugere bore dugrawr.
Chwedleu am gwydir owir hytlawr.
Kyfranc corroi a chocholyn.
Lliaws eu teruysc am eu teruyn.
Tardei pen amwern gwerin goaduwyn.
Kaer y sy gulwyd ny gwyd ny grin.
Gwyn y vyt yr eneit ae harobryn.