The Celtic Literature Collective

Marwnad Cunedda
Llyfr Taliesin XLVI

Mydwyf taliessin deryd gwawt godolaf vedyd.
Bedyd rwyd rifedeu eidolyd.
kyfrwnc allt ac allt ac echwyd
Ergrynawr cunedaf creisseryd.
ygkaer weir achaer liwelyd.
Ergrynawt kyfatwt kyfergyr.
kyfanwanec tan tramyr ton.
llupawt glew ygilyd.
kan kafas y whel uch eluyd.
mal vcheneit gwynt wrth onwyd.
kefynderchyn ygwn ygyfyl kyfachetwyn achoelyn kerenhyd.
Gwiscant veird kywrein kanonhyd.
marw cunedaf agwynaf agwynit.
Cwynitor tewdor tewdum diarchar.
Dychyfal dychyfun dyfynveis
dyfyngleis dychyfun.
Ymadrawd cwdwdawd caletlwm.
kaletach wrth elyn noc ascwrn.
ys kynyal cunedaf kyn kywys athytwet.
ywyneb a gatwet kanweith cyn bu lleith yndorglwyt
Dychludent wyr bryneich ympymlwyt.
Ef canet racyofyn ae arswyt oergerdet.
kyn bu dayr dogyn ydwet.
heit haual am wydwal gwnebrwyt.
gweinaw gwaeth llyfred noc adwyt.
Adoet hun dimyaw agwynaf amlys am grys cynedaf
Am ryaflaw hallt am hydyruer mor.
Am breid afwrn aballaf.
gwawt veird aogon aogaf.
Ac ereill arefon arifaf.
Ryfedawr yn erulawd
Anaw cant gorwyd kyn kymun cuneda.
Rymafei biw blith yrhaf.
Rymafei edystrawt ygayaf.
Rymafei win gloyw ac olew.
Rymafei torof keith rac vn trew.
Ef dyfal ogressur o gyflew gweladur.
Pennadur pryt llew lludwy uedei gywlat rac mab edern kyn edyrn anaelew.
Ef dywal diarchar diedig.
Am ryfreu agheu dychyfyg.
Ef goborthi aes ymanregorawl gwir gwrawl oed y vnbyn.
Dymhun achyfatcun athal gwin kamda.
diua hun o goelig.